Eglwys y Santes Fair, Caerhun

Oddi ar Wicipedia
Eglwys y Santes Fair
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 15 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaerhun Edit this on Wikidata
SirCaerhun Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr22.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2165°N 3.83329°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iy Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Manylion

Eglwys hynafol yn Sir Conwy yw Eglwys y Santes Fair, Caerhun. Fe'i lleolir ger pentref Caerhun yn Nyffryn Conwy ar godiad tir ar lan chwith Afon Conwy. Saif yr eglwys yng nghornel safle caer Rufeinig Canovium. Hon yw eglwys plwyf Caerhun.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae muriau corff yr eglwys, sy'n mesur 69 wrth 17 troedfedd, yn drwchus ac yn dyddio o'r 13g i'r 15g; mae'r ffenestri yn y corff yn dyddio o'r 18g. Ailadeiladwyd pen dwyreiniol y corff yn y 15g a'r pen gorllewinol yn yr 16g.[1]

Adeiladwyd y capel deheuol yn 1591. Ceir bwrdd uwchben y ffenestr ynddo gyda llythrennau yn dynodi enw'r noddwr, Edward Williams (m. 1591), a goffheir gyda chofeb Lladin. Mae trawst dan do'r capel sy'n gorffwys ar gorbel o'r 15g a addurnir â phen dynes gyda gwallt llaes.[1]

Mae'r clochdy yn bur hen ac yn debyg i'r enghraifft yn Eglwys Rhos, Creuddyn. Mae'n hirsgwar gyda lle i ddau gloch ond dim ond un sydd yno rwan; mae hynny hefyd yn bur hynafol.[1]

Ceir porth eglwys allanol (lych-gate) a atgyweirwyd yn 1736. Mae'r bachau haearn ar ffurf fleur-de-lys o waith lleol ac yn dyddio o'r un cyfnod.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Harold Hughes a H. L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, 1984).