Eglwys Prior y Santes Fair

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Prior y Santes Fair, Trefynwy


51°48′48″N 2°42′50″W / 51.8132°N 2.714°W / 51.8132; -2.714Coordinates: 51°48′48″N 2°42′50″W / 51.8132°N 2.714°W / 51.8132; -2.714
Lleoliad Trefynwy
Gwlad Cymru
Enwad Anglicanaidd
Gwefan St Mary's Priory Church
History
Sefydlwyr Withenog (neu Gwethenog)
Enwyd ar ôl Santes Fair y Forwyn
Architecture
Status Yr Eglwys yng Nghymru: Eglwys y plwyf.
Statws Gweithredol
Etifeddiaeth Gradd II*
Dyddiad cofrestru 27 Mehefin 1952 (1952-06-27)
Pensaer neu Bensaeri
Specifications
Defnyddiau Tywodfaen coch (y tŵr)
Gweinyddu
Plwy Trefynwy
Y deon Casgwent a Mynwy
Esgobaeth Esgobaeth Mynwy
Clerigwyr
Ficar Y Parchedig David McGladdery
Laity
Cyfarwyddwr Cerdd Ian Dollins
Gofalwr Jennifer Napier

Saif Eglwys Prior y Santes Fair yn Whitecross Street yn Nhrefynwy, Sir Fynwy, De-ddwyrain Cymru. Eglwys Anglicanaidd yw hi ond fe'i sefydlwyd fel priordy Benedictaidd yn 1075. Mae'r eglwys bresenol, fodd bynnag, yn tarddu'n ôl i'r 18fed ganrif. Cofrestryd hi yn 1952 gyda Gradd II*.

Mae'n un o 24 o adeiladau hanesyddol sydd ar Lwybr Treftadaeth Trefynwy.[1]

Hanes[golygu]

Ysgythriad 1799 gan R. Ackermann

Adeiladodd yr arglwydd Normanaidd William FitzOsbern gastell yn Nhrefynwy tua 1070. Rai blynyddoedd wedyn, rhoddodd y Llydawr Guihenoc o Fynwy yr eglwys a thir o'i chwmpas i Abaty Sant Fflorent ger Saumur yn Ffrainc. Cysegrwyd eglwys y priordy tua 1101 neu 1102. Ar y dechrau, roedd saith mynach a phrior.

Clychau[golygu]

Yn 1953 adferwyd ac ail grogwyd y clychau ar ball bearings gan Gillett & Johnston. Yn hydref 1972 roedd yn rhaid ru trwsio, ond roedd y problemau'n parhau a bu'n rhaid eu trwsio eto. Codwyd £4,000 gan Faer y Dref a rhoddwyd £10,000 mewn ewyllus a chomisiynnwyd the Whitechapel Bell Foundry a r gost o £22,000. Cawsant eu hailosod yn Nhachwedd 1982.[2]

Ceir wyth cloch:

Cloch Diametr (mm) Pwysau (kg) Nodyn
1 710 246 Eb
2 740 248 D
3 800 305 C
4 865 357 Bb
5 950 510 Ab
6 990 550 G
7 1070 660 F
8 1200 860 Eb

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Monmouth Civic Society, Monmouth Heritage Blue Plaque Trail, n.d., tud.19
  2. "The Bells" at monmouthparishes.org
  • Newman J., The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire, (2000) Penguin Books, ISBN 0-14-071053-1
  • Keith Kissack, Monmouth and its Buildings, (2003) Logaston Press, ISBN 1-904396-01-1,

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: