Eglwys Norwyaidd, Abertawe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Norwyaidd, Abertawe

Adeilad cofrestredig gradd II yw Eglwys Norwyaidd Abertawe sydd wedi'i lleoli yn SA1 Glannau Abertawe. Yn wreiddiol, lleolwyd yr adeilad yn Nociau Casnewydd. Fel rhan o'r adeilad, ceir Cenhedaeth y Morwyr ar y pen orllewinol ac eglwys gothig unigol ar yr ochr ddwyreiniol. Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol gan y Sjømannskirken fel man addoli ar gyfer morwyr Norwyaidd pan fyddent yn ymweld â Chymru. Ad-leolwyd yr eglwys yn Abertawe ym 1910 ar lannau'r Afon Tawe. Gyda'r datblygiadau a chynlluniau adfywio ardal SA1, ad-leolwyd yr egwlys am yr eildro. Gorchuddiwyd yr adeilad â sgaffaldau a chafodd ei dynnu i lawr yn ofalus. Cafodd ei ail-adeiladu ger dau adeilad cofrestredig hanesyddol arall - y Tŷ Iâ a'r Sied J. Ar hyn y bryd, defnyddir yr adeilad ar gyfer arddangosfa gelf lleol ac yn fuan bydd yn cael ei farchnata fel siop goffi neu rhyw ddefnydd tebyg.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]