Eglwys Llaneilian

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Sant Eilian
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlaneilian Edit this on Wikidata
SirLlaneilian Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr40.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.4106°N 4.30363°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iEilian Edit this on Wikidata
Manylion

Lleolir Eglwys Llaneilian ym mhentref Llaneilian yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn yn un o eglwysi hynaf yr ynys.

Ceir tair cloch yn nhŵr yr eglwys. Mae ynddi gist dderw gyda'r dyddiad 1667 arni. Yn yr hen amser byddai'r plwyfolion yn rhoi darnau grot trwy'r tyllau yn y gist. Ceir gefeiliau hir ac arnynt y dyddiad 1748. Mae'n debyg y defnyddid hwy i gadw'r cŵn draw. Mae darlun o sgerbwd ar y sgrin, ac yn ei ddwylo mae pladur ac arni'r geiriau Colyn angau yw pechod. Yn y nenfwd ceir cerfluniau pren lliwgar o ddynion yn chwarae offerynnau cerdd.

Oriel[golygu | golygu cod]

Y tu mewn i'r eglwys
Y tu mewn i'r eglwys 
Y paentiad o sgerbwd
Y paentiad o sgerbwd 
Gefeiliau dal ci Llaneilian
Gefeiliau dal ci Llaneilian 
Yr eglwys o'r tu cefn
Yr eglwys o'r tu cefn 
Croes eglwysig Llaneilian
Croes eglwysig Llaneilian 
Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato