Eglwys Iesu'r Gwaredwr

Oddi ar Wicipedia
Yr eglwys newydd fel y'i gwelir o'r bont dros yr Afon Moscfa

Eglwys Uniongred Rwsiaidd ym Moscfa, Rwsia yw Eglwys Iesu'r Gwaredwr (Rwsieg: Храм Христа Спасителя, Khram Khrista Spasitelya) a leolir ar lan gogleddol yr Afon Moscfa, ar gyfyl y Kremlin. Dyma'r eglwys uniongred dalaf yn y byd gydag uchder o 103m.

Mae'r eglwys gyfredol yn yr ail i sefyll yn y fangre hon. Adeiladwyd yr eglwys wreiddiol yn y 19g, a chymerodd dros 40 mlynedd i'w hadeiladu. Fe'i chwalwyd yn 1931 yn ystod teyrnasiad Comiwnyddol Joseph Stalin. Bwriadwyd adeiladu ar y safle Palas y Sofietiaid yn ei lle, ond ni ddigwyddodd hyn. Yn 1990, wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd fe ailgodwyd yr eglwys ar y safle gwreiddiol.