Eglwys Bresbyteraidd Efengylaidd yng Nghymru a Lloegr

Oddi ar Wicipedia

Enwad Cristnogol Diwygiedig ac efengylaidd ceidwadol yw'r Eglwys Bresbyteraidd Efengylaidd yng Nghymru a Lloegr (Saesneg: Evangelical Presbyterian Church in England and Wales, EPCEW), â'i egwlysi yng Nghymru, Lloegr a Sweden.

Hanes yn Lloegr[golygu | golygu cod]

Ym 1986, cynhaliwyd cynhadledd Bresbyteraidd mewn un o gapeli Eglwys Rydd yr Alban yn Llundain, lle y cynigiwyd gweledigaeth am enwad Presbyteraidd newydd yn Lloegr a fyddai'n ffyddlon i'r Ysgrythurau ac yn glynu wrth Gyffes Ffydd Westminster. O ganlyniad, sefydlwyd y Gymdeithas Bresbyteraidd yn Lloegr ym 1987 o blith sawl eglwys a grŵp Cristnogol bach, wedi'i ddilyn gan ymdrechion i sefydlu eglwysi newydd. Ym 1991, ffurfiwyd henaduriaeth dros dro ag eglwysi yn Blackburn, Caergrawnt, Chelmsford, Durham a Hull er mwyn anelu at sefydlu'r enwad newydd. Gwireddwyd hyn ym 1996, gan ddwyn yr enw, yr Eglwys Bresbyteraidd Efengylaidd yng Nghymru a Lloegr.[1]

Datblygiadau yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Yn 2000, derbyniwyd dau gapel yng Nghaerdydd i'r enwad, Immanuel a Bethel.[2][3] Yn fwy diweddar, mae capel yn y Barri wedi ymaelodu hefyd.[4]

Cyrff rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Ynghyd ag Eglwys Rydd yr Alban ac Eglwys Rydd Barhaus yr Alban, un o dri aelod o Gynhadledd Ryngwladol Eglwysi Diwygiedig o Brydain Fawr ydyw,[5] ac mae'n un o saith enwad Cristnogol yn Ewrop a sefydlwyd Cynhadledd Eglwysi Diwygiedig Ewrop.[6]

Eglwysi[golygu | golygu cod]

Yn 2015, mae gan yr enwad 17 o eglwysi yn:[7]

Cymru[golygu | golygu cod]

Lloegr[golygu | golygu cod]

Sweden[golygu | golygu cod]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Mae'r enwad yn cyhoeddi cylchgrawn The Presbyterian Network yn y gwanwyn a'r hydref, sydd yn cynnwys erthyglau diwinyddol a bugeiliol a newyddion am ei heglwysi.[24]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.epcew.org.uk/about.html Evangelical Presbyterian Church in England and Wales - About
  2. http://christianquoter.blogspot.hu/2010/06/presbyterianism-in-england-today-part-3.html Christian Quoter - Presbyterianism in England Today (Part 3)
  3. http://heidelblog.net/2012/09/there-are-presbyterians-in-england-and-theyre-having-a-conference/ The Heidelblog - There Are Presbyterians in England and They’re Having a Conference
  4. http://www.chelmsfordpres.org.uk/presbytery/index.html Archifwyd 2015-05-06 yn y Peiriant Wayback. Chelmsford Presbyterian Church - Presbytery News
  5. http://www.icrconline.com/members.html Archifwyd 2012-07-17 yn y Peiriant Wayback. International Conference of Reformed Churches - Churches in Membership
  6. http://www.eucrc.org/index.php/members/list-of-members European Conference of Reformed Churches - Member Churches
  7. "EPCEW Congregations". Evangelical Presbyterian Church in England and Wales Website. Evangelical Presbyterian Church in England and Wales. Cyrchwyd 27 April 2015.
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2015-07-01.
  9. http://www.bethelpcr.org.uk Bethel Presbyterian Church, Cardiff
  10. http://www.immanuelcaerau.org.uk/ Archifwyd 2016-01-09 yn y Peiriant Wayback. Immanuel Presbyterian Church
  11. http://www.affinity.org.uk/find-a-church/church-information/blackburn-evangelical-presbyterian-church
  12. http://www.bse-pc.org/welcome.htm Archifwyd 2014-07-14 yn y Peiriant Wayback. Bury St Edmunds Presbyterian Church
  13. http://www.cambridgepres.org.uk/ Cambridge Presbyterian Church
  14. http://www.chelmsfordpres.org.uk/ CPC Hall Street
  15. http://www.cheltenhampres.org.uk/ Naunton Lane Evangelical Presbyterian Church
  16. http://www.depc.org.uk/ Archifwyd 2016-01-09 yn y Peiriant Wayback. Durham Presbyterian Church
  17. http://www.gatesheadpres.org.uk/ Gateshead Presbyterian Church
  18. "Hexham Presbyterian Church". Hexham Presbyterian Church Website. Hexham Presbyterian Church. Cyrchwyd 27 April 2015.
  19. http://www.ehpc.co.uk/ East Hull Presbyterian church
  20. http://www.sheffieldpres.org.uk/ Sheffield Presbyterian Church
  21. http://www.solihullpres.org.uk/ Solihull Presbyterian Church
  22. http://www.erkis.se/en/ Archifwyd 2015-06-26 yn y Peiriant Wayback. Immanuelskyrkan
  23. http://www.reformert.se/ Archifwyd 2016-02-06 yn y Peiriant Wayback. Westminstergruppen
  24. http://www.epcew.org.uk/resources.html Evangelical Presbyterian Church in England and Wales - Resources