Egilsay
Oddi ar Wicipedia
Un o'r ynysoedd sy'n ffurfio Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Egilsay. Saif i'r gogledd o'r brif ynys, Mainland, ac i'r dwyrain o ynys fwy Rousay. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 37.
Ceir cysylltiad fferi a Tingwall, ar ynys Mainland. Ar Egilsay y merthyrwyd Sant Magnus yn 1117, ac mae eglwys wedi ei chysegru iddi ar yr ynys.