Edward Lear
Oddi ar Wicipedia
Arlunydd, awdur, a bardd Seisnig oedd Edward Lear (12 Mai 1812 – 29 Ionawr 1888) sy'n enwog am ei limrigau a'i gerddi digri. Roedd y 21ain plentyn i Ann a Jeremiah Lear a chafodd ei fagu gan ei chwaer Ann a oedd yn 21 mlynedd yn hun nag ef. Dywedir ei bod wedi gwirioni arno cymaint nes iddi barhau i edrych ar ei ôl nes yr oedd tua 70 oed, pan farwodd.[1]
Roedd yn dioddef o fronceitis, asma a ffitiau epileptig ers oedd yn chwech oed. Dioddefai, hefyd, o salwch meddwl, a alwai ef yn "the Morbids." [2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Holbrook, Jackson (ed). The Complete Nonsense of Edward Lear. Dover Publications, 1951. Page xii.
- ↑ Lear, Edward (2002). The Complete Verse and Other Nonsense. New York: Penguin Books. tud. 19–20. ISBN 0142002275.
