Edward Davies (Iolo Trefaldwyn)

Oddi ar Wicipedia
Edward Davies
FfugenwIolo Trefaldwyn Edit this on Wikidata
Ganwyd1819 Edit this on Wikidata
Llanfyllin Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 1887 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg ac eisteddfodwr oedd Edward Davies (18194 Ionawr 1887), a fu'n adnabyddus wrth ei enw barddol Iolo Trefaldwyn. Roedd yn frodor o blwyf Llanfyllin ym Maldwyn, Powys.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Iolo ym Moel-y-frochas ger pentref Llanfyllin rywbryd yn y flwyddyn 1819. Roedd ei rieni yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Rhos-y-brithdir, gyda'r cyntaf yn yr ardal i ymaelodi. Cafodd beth addysg yn ysgol Morris Davies yn Llanfyllin cyn dilyn gyrfa amrywiol fel gwas fferm lleol a gweithio yn chwarel Llangynog a gwaith plwm Rhyd-y-mwyn. Ar ôl cyfnod yn gwerhu glo yn Lerpwl, ymsefydlodd yn Wrecsam a chychwyn busnes yn gwerthu llyfrau i gyhoeddwr o'r Alban. Bu farw ar y 4ydd o Ionawr 1887.[1]

Bardd ac eisteddfodwr[golygu | golygu cod]

Roedd yn eisteddfodwr brwd. Yn Eisteddfod y Gordofigion Lerpwl, 1870, bu'n fuddugol gyda'i bryddest 'Goleuni'. Roedd dipyn o alwad amdano i feirniadu, adrodd a chanu penillion mewn eisteddfodau lleol. Roedd yn englynwr medrus ac, fel sy'n wir yn gyffredin am sawl bardd o'r cyfnod, ei brif werth llenyddol heddiw yw fel englynwr a lluniwr beddargraffiadau cofiadwy yn hytrach nag am ei gerddi hir eisteddfodol. Cyhoeddwyd ei unig gyfrol, Caneuon Iolo Trefaldwyn, ychydig cyn ei farw.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Caneuon Iolo Trefaldwyn

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Edward Davies, Bywgraffiadur ar-lein Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd 07.01.2015.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: