Edward Anwyl

Oddi ar Wicipedia
Edward Anwyl
Ganwyd5 Awst 1866 Edit this on Wikidata
Caer Edit this on Wikidata
Bu farw8 Awst 1914 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperson dysgedig Edit this on Wikidata
TadJohn Anwyl Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Ysgolhaig Cymreig oedd Syr Edward Anwyl (5 Awst 18668 Awst 1914) a benodwyd yn Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1892. Yn 1905 daeth hefyd yn bennaeth yr adran ieitheg yno. Cyfrannodd yn helaeth am hanes llenyddiaeth Gymraeg ac am yr Eglwys Geltaidd, athroniaeth a diwynyddiaeth. Roedd yn frawd i'r geiriadurwr J. Bodvan Anwyl. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1911. Yn 1913 fe'i penodwyd yn brifathro cyntaf Coleg Hyfforddi Sir Fynwy (Coleg Caerllion) ond bu farw cyn i'r coleg ar gyfer hyffordd athrawon, agor yn swyddogol.

Ganed yng Nghaer a bu'n ddisgybl i John Rhŷs ym Mhrifysgol Rhydychen. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Anghytunai'n gryf gyda safwbwynt dogmatig John Morris Jones ar ramadeg Cymraeg. Credai Anwyl y dylai'r iaith ysgrifenedig fod yn llawer nes i'r iaith lafar, syniadau a welwyd yn blaguro yn yr 21g e.e. iaith ysgrifenedig Golwg a Sulyn o'i flaen ac iaith blogiau.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Welsh Accidence (1898)
  • A Welsh Grammar for Schools (1897-1899)
  • Welsh Syntax (1899)
  • Celtic Religion in Pre-Christian Times (1906)

Ffynonellau[golygu | golygu cod]