Edrychiad Cynta'

Oddi ar Wicipedia
Edrychiad Cynta'
Clawr Edrychiad Cynta'
Albwm stiwdio gan Iwcs a Doyle
Rhyddhawyd 3 Mawrth 1997
Recordiwyd 1996
Genre Pop
Hyd 37:54
Label Recordiau Sain
Cynhyrchydd Les Morrison

Edrychiad Cynta' oedd albwm stiwdio gyntaf y deuawd Iwcs a Doyle, a chafodd ei rhyddhau ym mis Mawrth 1997. Cafodd yr albwm ei recordio yn sgîl llwyddiant Iwcs a Doyle yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 1996 efo'r gân "Cerrig yr afon".

Recordiwyd Edrychiad Cynta' yn stiwdios Sain, Llandwrog ger Caernarfon yn 1996. Ysgrifennwyd y traciau i gyd gan Iwan "Iwcs" Roberts a John Doyle, heblaw am y gân "Rhywbeth bach", a ysgrifennwyd gan Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr. Baledi a chaneuon acwstic ydy'r caneuon, yn bennaf. Amlygir amrywiaeth o arddulliau cerddorol ar yr albwm, gan gynnwys pop, gwerin a ffync.

Bu'r albwm yn llwyddiant ysgubol a gwerthodd yn well nac unrhyw albwm Gymraeg arall cyn hynny, camp na chafodd ei oresgyn hyd nes i'r albwm Mwng gael ei rhyddhau gan y Super Furry Animals yn 2000.

Rhestr traciau[golygu | golygu cod]

Rhif Teitl Hyd
1 Clywed sŵn 4:00
2 Cerrig yr afon 3:43
3 Ffydd y crydd 2:31
4 Pentiwr bach, a'r cynfas gwyn 4:20
5 Blodeuwedd 3:19
6 Rhywbeth bach 4:20
7 Edrychiad cynta' 3:50
8 Trawscrwban 3:12
9 Da iawn 3:26
10 M.P.G. 5:16
11 Boi scrap 2:17

Personel[golygu | golygu cod]

Iwcs a Doyle
Cerddorion eraill a chynhyrchwyr

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

  • [1][dolen marw], Gwybodaeth gefndirol ar yr albwm ar wefan recordiau Sain.