Edmund Meyricke

Oddi ar Wicipedia
Edmund Meyricke
Bu farw1666 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the April 1660 Parliament Edit this on Wikidata

Roedd Edmund Meyricke (bu farw 1666) yn fân uchelwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirion ym 1660[1] 

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Does dim cofnod o enedigaeth Edmund Meyricke ond roedd yn fab i Peter Meyricke o'r Ucheldre, Gwyddelwern a Lowri merch Lewis Anwyl, Y Parc, Llanfrothen.

Bu'n briod ddwywaith: ei wraig gyntaf oedd Grace merch ac etifedd Cadwaladr ap Watkin, Garthllwyd, Llandderfel. Bu hi farw ym mis Awst 1629 a bu iddynt ddau fab a thair merch. Erbyn 1636 roedd wedi ail briodi a Janet, merch John Vaughan, Cefnbodig, Llanycil, a gweddw Thomas Oliver y Bala; bu iddynt un mab.

Roedd Edmund Meyricke yn perthyn i is-gangen o deulu mwy pwerus Meyrick, Bodorgan a ddaeth i fri yn ystod teyrnasiad y Tuduriaid[2].

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Etifeddodd yr Ucheldre oddi wrth ei dad ym 1630.

Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch ar fainc Sir Feirionnydd o 1630 i 1650. Bu'n ddirprwy siryf Meirion ym 1660 a Siryf yn nhymor 1632-1633[3]. Bu'n gomisiynydd trefn rhwng 1642 a 1643 ac yn gomisiynydd asesiad rhwng 1647 a 1649, eto rhwng 1652 a 1657 ac eto byth rhwng 1660 a’i farwolaeth. Gwasanaethodd hefyd fel is-Raglaw Meirionnydd rhwng 1660 a’i farwolaeth. 

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ceisiodd Meyricke osgoi ymrwymiad i’r naill ochr na’r llall yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Cafodd ei ethol i Senedd y Confensiwn ym 1660, sef Senedd a alwyd ar ddiwedd cyfnod y Gymanwlad ond cyn ail adfer y goron i Siarl II. Mewn cyfnod pan oedd etholiad yn cael ei ddefnyddio i weld pa deulu oedd a’r dylanwad a’r grym fwyaf yn y Sir, yn hytrach na dewis yr unigolyn gorau i gynrychioli’r etholaeth, anghyffredin yn yr oes honno oedd ethol un o fân deulu. Mae’n debyg mai’r ffaith iddo beidio ag ymrwymo yn y rhyfel a sicrhaodd iddo gael ei ethol, yn y gobaith gan y naill ochr a’r llall na fyddai’n cefnogi mesurau rhy llym, beth bynnag oedd y setliad cyfansoddiadol. Ond ni fu yn aelod gweithgar, gan wasanaethu ar ddim ond saith pwyllgor di-nod. Er hynny fe fu yn gefnogol i blaid y goron gan arwyddo’r ddeiseb i ddwyn cyfiawnder ar John Jones, Maes y Garnedd a’r brenin leiddiaid eraill. Ni cheisiodd ei ail ethol yn etholiad 1661[1]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Does dim sicrwydd o union ddyddiad ei farwolaeth ond fe’i claddwyd yng Ngwyddelwern ar 9 Tachwedd 1666. 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
neb
Aelod Seneddol Meirionnydd
16601661
Olynydd:
Henry Wynn