Edirne
Oddi ar Wicipedia
Mosg Selimiye yn Edirne
Dinas yn Thrace, yng ngorllewin Twrci yw Edirne. Saif yn agos i'r ffîn rhwng Twrci a Gwlad Groeg a Bwlgaria. Edirne yw prifddinas Talaith Edirne. Roedd y boblogaeth yn 2002 yn 128,400.
Hen enw'r ddinas oedd Adrianople neu Hadrianopolis, ar ôl yr ymerawdwr Rhufeinig Hadrian; defnyddir yr enw o hyd gan y Groegiaid. Saif y ddinas mewn lleoliad strategol pwysig, ar ffordd Rufeinig y Via Egnatia, a bu nifer o frwydrau yma. Ym Mrwydr Adrianople yn 313, gorchfygwyd Maximinus Daia gan Licinius, yna ym mrwydr 324, gorchfygwyd Licinius gan Cystennin Fawr. Yr enwocaf o'r brwydrau yma oedd Brwydr Adrianople (378), pan orchfygwyd yr ymerawdwr Valens gan y Gothiaid.

