Eddie Smart
| Manylion Personol | |
|---|---|
| Enw Llawn | Edward Charles Smart |
| Dyddiad geni | 0 Mawrth 2000 (53 oed) |
| Gwlad | |
| Taldra | 1.82 m |
| Pwysau | 69 kg |
| Gwybodaeth Tîm | |
| Disgyblaeth | Ffordd a Trac |
| Rôl | Reidiwr |
| Tîm(au) Amatur | |
| Cardiff Byways | |
| Golygwyd ddiwethaf ar: | |
| 30 Mai 2008 | |
Seiclwr rasio a hyfforddwr Cymreig o Gasnewydd oedd Edward Charles Smart, adnabyddwyd fel Eddie Smart (23 Awst 1946–Mawrth 2000).[1][2] Cynrychiolodd Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 1966 yn Kingston, Jamaica, gan gystadlu yn y ras scratch, kilo, sbrint, pursuit a'r ras ffordd. Roedd yn rhedeg garej ar Maindy Road, gyferby'n â'r trac seiclo. Fe hyfforddodd Smart nifer o reidwyr ifanc, roedd hefyd yn cydlynydd trac Undeb Beicio Cymru, ac yn aelod o bwyllgor cyngrhair trac Maindy.
Roedd Steve Jones ac Eddie Smart yn ddau o'r brif helpwyr yn y Junior Tour of Wales. Lladdwyd hwy mewn damwain car ar yr M4 yn Berkshire. Mae trefnydd y ras, John Richards, yn cyflwyno Tarian Goffa yn eu henwau, i'r reidiwr Cymreig gorau yn y ras pob blwyddyn. [3][4] Sefydlwyd Cronfa Goffa Eddie Smart er mwyn ailwampio'r trac fel y buasai wedi hoffi.[5]
Palmarès [golygu]
- 15fed Kilo, Gemau'r Gymanwlad
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Cofrest genedigaethau Lloegr a Chymru, Edward C Smart Gorffennaf/Awst/Medi 1946; Cerdydd; Llysenw mam: Davey; Cyfrol: 8b; Tudalen: 199
- ↑ Cofrest marwolaethau Lloegr a Chymru, Edward Charles Smart; Dyddiad geni: 23 Aug 1946; Dyddiad cofrestru marwolaeth: Mawrth 2000; Ardal: Gorllewin Berkshire; Rhif cofrestr: 50E; Rhif cofnod: 245
- ↑ Dudley's Shopfitters Junior Tour of Wales Cycle Race 2005. Welsh Cycling (8 Awst 2005).
- ↑ RIS JUNIOR TOUR OF WALES. Welsh Cycling (10 August 2006).
- ↑ Eddie Smart Memorial Fund. Cardiff JIF (27 March 2000).