Edammer

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Caws Edammer, Edam

Mae Edammer neu Caws Edam yn gaws sy'n dod yn wreiddiol o Edam yn yr Iseldiroedd.

Am ganrifoedd lawer, roedd caws Edam yn cael ei wneud o laeth amrwd. Yn Ffrainc yn yr 17eg ganrif roedd yn fodel ar gyfer y caws Mimolette. Heddiw, mae'r caws llaeth amrwd wedi diflannu i raddau helaeth o'r farchnad, yn llawer mwy aml ceir yn awr 'Edam ffatri', sef caws llaeth pasteureiddiedig. Mae'r caws yn aeddfedu am chwech i wyth wythnos. Yn yr Iseldiroedd mae caws Edam o siâp pêl yn cael ei werthu yn bennaf gyda chroen naturiol. Mae gan yr Edammer gorau arogl sydd fymryn yn sbeislyd gyda blas pur, ysgafn.

Cheese.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gaws. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.