Bugeilgerdd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eclog)
Pastore di Arcadia (Bugail Arcadaidd), enghraifft o baentio bugeiliol mewn arddull neoglasurol gan yr arlunydd Eidalaidd Cesare Saccaggi o Tortona

Cân neu gerdd sy'n portreadu bywyd a helyntion bugail neu fugeiliaid yw bugeilgerdd. Weithiau defnyddir y term i gyfeirio at gerddi am y bywyd gwledig yn gyffredinol.

Mae'n ffurf lenyddol hynafol sydd i'w holrhain yn ôl i gyfnod Groeg yr Henfyd a gwaith y bardd Theocritus a'i ddilynwyr, yn cynnwys Bion a Moschus. Roedd Theocritus a Moschus yn frodorion Siracusa, Sisili. Deialog neu ymson a geir yn eu gwaith, sy'n troi fel rheol o gwmpas helynt y praidd a chariadon y bugail.

Ymhlith y beirdd clasurol y dylanwadwyd arnynt gan waith y beirdd Groeg hyn y mae Fferyllt (Virgil), yn ei Eclogues. Gwelir tueddiad i ddelfrydu bywyd y bugail a'i osod mewn math o Arcadia baradwysaidd.

Daeth y fugeilgerdd yn ffasiynol eto yn y Dadeni ac yn y 18g pan gafwyd nifer o gerddi "mewn efelychiad o Theocritus." Y bugeilgerddi enwocaf yn llenyddiaeth Gymraeg yw'r ddwy gan Edward Richard (1714-1777), a leolir yng nghefn gwlad Ceredigion.