E. Gwyndaf Evans
E. Gwyndaf Evans | |
---|---|
Ffugenw | Gwyndaf |
Ganwyd | 7 Mawrth 1913 |
Bu farw | 10 Mawrth 1986 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Gweinidog a bardd Cymraeg oedd Evan Gwyndaf Evans neu "Gwyndaf" (7 Mawrth 1913 - 10 Mawrth 1986).[1] Bu'n weinidog yng Nghapel Tabernacl, Llanelli.
Bu'n athro ysgrythyr yn Ysgol Brynrefail, Llanrug o 1957 hyd 1978.[1]
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1935 gyda'r gerdd Magdalen,[2] y tro cyntaf i gerdd gynganeddol vers libre ennill y gystadleuaeth. Bu'n Archdderwydd rhwng 1966 a 1969.
Yn frodor o bentref Llanfachreth, Gwynedd, daeth i sylw Cymru fel bardd pan enillodd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 1934. Yn 1935 enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol am ei awdl 'Magdalen'. Bu'n Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol o 1966 hyd 1968.[3]
Arbrofai ar ysgrifennu vers libre mewn cynghanedd ac roedd yn ganwr penillion adnabyddus hefyd. Dim ond un gyfrol o gerddi a gyhoeddodd, sef Magdalen a cherddi eraill, ond cyfrannai'n gyson i gylchgronau Cymraeg ar hyd ei oes.[3]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Magdalen a cherddi eraill (Gwasg Gomer, 1962)
- Cerddi Gwyndaf: y casgliad cyflawn (Dinbych: Gwasg Gee, 1987)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 Y Parch E Gwyndaf Evans BA Eco'r Wyddfa Ebrill 1986 Tud:3
- ↑ Gwefan yr Eisteddfod Enillwyr y Gadair Archifwyd 2019-01-09 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 21 Tachwedd 2017
- ↑ 3.0 3.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru