Dyrham

Oddi ar Wicipedia
Dyrham
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDyrham and Hinton
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerloyw
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.4833°N 2.3667°W Edit this on Wikidata
Map

Pentref yn sir seremonïol Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, yw Dyrham[1] (neu Caerweir). Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Dyrham and Hinton yn awdurdod unedol De Swydd Gaerloyw.

Mae'n gorwedd ger briffordd yr A46, tua 6.5 milltir (10.5 km) i'r gogledd o ddinas Caerfaddon a mymryn i'r de o'r M4. Mae llwybr y 'Cotswold Way' yn rhedeg trwy'r pentref.

Mae'n bosibl mai Dyrham oedd lleoliad Brwydr Dyrham (Brwydr Deorham) rhwng y Brythoniaid a'r Eingl-Sacsoniaid yn 577.

Ar gyrion y pentref ceir plasdy mawr Dyrham Park.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 3 Gorffennaf 2020
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaerloyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato