Dynes

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Birth of Venus 1862 gan Eugène Emmanuel Amaury-Duval

Benyw wedi gadael ei glasoed yw dynes neu wraig (woman yn Saesneg). Mae'n tarddu o'r gair "dyn" sy'n golygu mankind. Lluosog y gair dynes yw "merched" neu "wragedd".

Defnyddir hefyd y gair hogan, merch a geneth (lluosog: genod), yn y gogledd i gyfeirio at fenyw ifanc yn gyffredinol, ond hefyd tuag at ddynes. Er enghraifft, nid pobl ifanc yn unig ydyw aelodau Merched y Wawr!

Ceir yn ogystal y term "hen ferch" i ddynodi dynes ddibriod mewn oed (cf. "hen lanc") a 'merch weddw' i ddynodi merch sydd wedi colli ei gŵr.

Defnydd pellach o'r gair[golygu]

  • hen wraig = old woman
  • pladres o ddynes = a large woman
  • Cymorth i Fenywod = Women's Aid
  • Sefydliad y Merchaid = Women's Institute
  • meddyges = woman doctor

Bioleg a rhyw[golygu]

Mae system atgenhedlu benywaidd yn cynnwys:

Organau cenhedlu benywaidd
  1. tiwbiau Ffalopaidd
  2. pledren
  3. pwbis
  4. man G
  5. clitoris
  6. wrethra
  7. gwain
  8. ofari, neu wygell
  9. coluddyn mawr
  10. croth
  11. ffornics
  12. ceg y groth
  13. rectwm
  14. anws
Organau cenhedlu benywaidd.png

Gweler hefyd[golygu]


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am dynes
yn Wiciadur.