Dylunio mewnol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Dylunio tu mewn)

Galwedigaeth sy'n cyfuno datrysiadau creadigol a thechnegol o fewn adeiladau ydy dylunio mewnol. Mae'r datrysiadau yn rai gweithredol, sy'n gwella ansawdd bywyd a diwylliant y preswylwyr yr adeilad, ac sy'n atyniadol yn weledol. Creir y dyluniadau mewn ymateb i ac cydlynu gyda' anghenion rheoleiddio, ac yn hybu egwyddorion cynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae'r broses o ddylunio mewnol yn dilyn methodoleg systematig, sy'n cynnwys ymchwil, dadansoddiad ac integreiddiad yr wybodaeth i'r broses greadigol, fel bod anghenion ac adnoddau'r cleient yn cael eu bodloni er mwyn creu gofod mewnol sy'n ateb anghenion y prosiect.[1]

Mae gwaith cylunydd mewnol yn tynnu ar nifer o ddisgyblaethau gan gynnwys seicoleg amgylcheddol, pensaerniaeth, dylunio cynnyrch, ac addurno traddodiadol (estheteg a chosmetig). Maent yn dylunio'r gofod mewn bron pob math o adeilad, gan gynnwys gwestai, adeiladau corfforaethol, ysgolion, ysbytai, tai preifat, siopau, bwytai, theatrau a maesi awyr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]