Afon Nedd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Dyffryn Nedd)
Afon Nedd
Afon Nedd ger Castell-nedd
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.62°N 3.83°W Edit this on Wikidata
AberMôr Hafren Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Mellte, Afon Dulais, Afon Clydach Edit this on Wikidata
Hyd42 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Sgwd Gwladys, yn rhan uchaf yr afon

Afon yn ne-ddwyrain Cymru yw Afon Nedd sy'n rhedeg o'i ffynnhonell i'w haber ym Mae Abertawe i'r de o Lansawel. Mae hi'n codi o godrefryniau'r Bannau Brycheiniog gyda dau brif llednant, afonydd Hepste a Mellte. Mae cronfa ddŵr Ystradfellte ar Mellte.

Er fod yr afon yn tarddu yn hen dywodfeini Defonaidd ym Mhowys, mae'n fuan yn croesi carreg galch a grô maen melin ar ei daith. Yn y carreg galch mae'n rhedeg yn rannol tanddaear ac yn rannol uwchddaear drwy rwydwaith cymhleth o geudyllau, ogofâu a llyncdyllau.

Mae'r gro maen melin yn creu un o gyfresi rhaeadrau tra bod yr afon a'i llednentydd, gan gynnwys afonydd Pyrddin a Nedd Fechan, yn disgyn i ddyfryn rhewlifol hynafol y Nedd ac ymlaen i'r meysydd glô Carbonifferaidd.

Mae'r ddwy brif llednant yn ymuno dwy filltir i'r de o Bontneddfechan i greu gwir Nedd, ymunir Nedd Fechan â hi ym Mhontneddfechan. O'r pwynt yma i lawr, mae'r afon yn reit unionsyth, ac mae unrhyw lednentydd o bwys yn brin, mae'r rhai sydd yn ymuno â hi yn cynnwys Nant Melincwrt a Nant Clydach. Yr unig lednant arall o bwys i ymuno ydy afon Dulais sydd â'i ffynhonnell i'r gogledd o Flaendulais. Fel mae Dulais yn agosau at Nedd, mae'n disgyn i raeadr ysblenydd Rhaeadrau Aberdulais, atyniad twristiaeth poblogaidd a safle hen weithfeydd haearn.

Mae Afon Nedd yn darparu dŵr ar gyfer dau gamlas, Camlas Nedd a Chamlas Tennant. Ym masn Aberdulais, mae'r ddau camas yn cwfr, y Camlas Tennant yn croesi Nedd ar draphont gwych. Hefyd yn croesi'r afon yma mae llinell rheilfordd Dyffryn Nedd a ffordd yr A465.

Mae aber yr afon yn ymestyn o Gastell-nedd heibio Llansawel ac i'r môr ger Jersey Marine. Mae'r aber yn rhannol wedi ei diwydiannu, gyda iard torri llongau a Safle Amwynderau Dinesig mawr. Lle nad oes ymyrraeth â hi, mae gan yr afon ardaloedd morfa heli sydd â gwerth ecolegol o bwys.

Cefnogodd yr afon ar un adeg, nifer o byllau glô dwfn a golchfeydd glô ac tuag at ddiedd y 20g, sawl cloddfa agored. Roedd hefyd sawl cloddfa ddrifft, roedd yr rhai o'r rhain yn dal i ddefnyddio merlod tan ddiwedd y 1990au.

Sefydlwyd ffactri aliminiwm mawr yn agos i Resolfen yn ystod y rhyfel, ond ceuwyd hwn yn y 1990au. Prif ddiwydiannau Dyffryn Nedd heddiw yw coedwigaeth a ffermio, bydd rhanfwyaf o boblogaeth y dyffryn yn teithio i Abertawe neu Bort Talbot pob dydd ar gyfer eu gwaith.