Dyfan Dwyfor

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Actor Cymreig yw Dyfan Dwyfor, sy'n dod o Gricieth yn wreiddiol. Mynychodd Ysgol Eifionydd, Porthmadog a Choleg Meirion Dwyfor cyn mynd ymlaen i Ysgol Glanaethwy.[1] Graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2007.

Dechreuodd actio yng nghyfres Rownd a Rownd. Ymysg ei ymddangosiadau cynharaf ar y teledu, chwaraeodd Dwyfor ran yn nrama Oed yr Addewid, enillodd y ddrama dair gwobr BAFTA Cymru a FIPA Aur.

Enillodd Wobr Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2004.[2]

Bydd Dwyfor yn ymddangos fel gweinydd Paradise yn I Know You Know, yn serenu Robert Carlyle.

Gwaith[golygu]

Teledu[golygu]

  • Caerdydd, "Jamie"
  • Rownd a Rownd, "Tom"
  • Pen Tennyn, "John Iwan"
  • A470, "Silver"

Ffilm[golygu]

  • Oed yr Addewid (2002) "Stephen"
  • The Baker (2007) "Eggs"
  • I Know You Know (2008) "gweinydd Paradise" (ôll-gynhyrchu)

Theatr[golygu]

  • Silence, "As Cast", RSC
  • Little Eagles, "As Cast", RSC
  • Romeo & Juliet, "Peter", RSC
  • Morte D'Arthur, "Ensemble", RSC
  • The Grain Store/The Drunks, "As Cast", RSC
  • The Comedy of Errors, "Dromio Of Ephesus", RSC, The Swan Theatre, Stratford (2006)
  • As You Like It, "William", RSC
  • Six Characters in Search of an Author, "Son", Headlong Theatre
  • Hamlet, "Laertes"

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Dyfan Dwyfor yn Stratford. BBC Cymru (Hydref 2006).
  2.  Dyfan Dwyfor. Markham & Froggart.

Dolenni allanol[golygu]