Dyddiadur Desg y Lolfa

Oddi ar Wicipedia

Dyddiadur hylaw maint A4, A5 a fersiwn poced A6 a gyhoeddir gan Gwasg y Lolfa, Talybont ger Aberystwyth.[1]

Mae'r dyddiadur yn cynnwys lle i'r perchennog ysgrifennu nodiadau wrth bob dyddiad. Ceir hefyd yr hynodrwydd o nodi prif ddigwyddiadau calendr y Cymry e.e. Dydd Gŵyl Dewi, dyddiadau'r Eisteddfodau a gemau rhynglwadol pêl-droed a rygbi.

Dyma'r unig ddyddiadur yn y Gymraeg sydd ar werth i'r cyhoedd yn y siopau (ceir hefyd ddyddiadur gan Merched y Wawr). Mae'r fersiwn A4 ac A5 yn cynnwys enwau'r misoedd, dyddiau'r wythnos a digwyddiadau o bwys yn ddwyieithog ond ceir cyfeiriadur yn y blaen sy'n cynnwys cyfeiriadau a manylion cysylltu prif sefydliadau Cymru a'r Gymraeg, papurau bro, cwmniau darlledu, llyfrwerthwyr, llety ayyb. Ceir hefyd hysbysebion gan nifer o sefydliadau a chwmniau busnes yn y dyddiadur ac ar y clawr.

Dyluniad[golygu | golygu cod]

Mae dyluniad y dyddiadur yn dilyn yr un fformat yn flynyddol gyda'r flwyddyn mewn print bras ar hyd ochr dde y clawr a dau ddigyd olaf y flwyddyn mewn lliw gwahanol i weddill y clawr.

Ceir fel rheol hysbyseb lliw gan noddwr mewn band wrth droed y clawr.

Defnydd[golygu | golygu cod]

Mae'r dyddiadur wedi magu ei lle fel rhan anhepgor o ddeunydd a gwaith gweithwyr swyddfa sy'n defnyddio'r Gymraeg.[angen ffynhonnell]

Oherywdd ei unigrwydd a'i hynodrwydd o gynnwys dyddiadau y calendr Cymreig caiff y dyddiadur ei defnyddio gan sawl person nad sy'n rhugl yn y Gymraeg.[angen ffynhonnell] Caiff hefyd ei phrynu a'i dosbarthu i staff sefydliadau Cymraeg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwasg y Lolfa; Archifwyd 2016-06-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 2014