Dyddiadur Edward Edwards, Tywyn, Meirionnydd

Oddi ar Wicipedia
Dyddiadur Edward Edwards, Tywyn, Meirionnydd
Enghraifft o'r canlynoldyddiadur Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
LleoliadTywyn Edit this on Wikidata

Mae dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Gwynedd yn un o nifer o ddyddiaduron sydd wedi ei gynnwys yng nghronfa ddata Tywyddiadur Llên Natur (Cymdeithas Edward Llwyd) ac sydd wedi'u rhestru yn y rhestr o ddyddiaduron amgylcheddol Cymreig. Mae'r erthygl hon yn crynhoi cefndir bywgraffiadol y dyddiadurwr ac yn cyflwyno prif werth y ddogfen fel tystiolaeth amgylcheddol a chymdeithasol o'r cyfnod.

Mae elfennau amaethyddol ac amgylcheddol y dyddiadur i’w gweld yn eu cyfanrwydd yma [1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Lleoliad y dyddiadur[golygu | golygu cod]

Ysgubor Ddegwm
Ysgubor Ddegwm o'r de-orllewin

Ysgrifennwyd y dyddiadur mewn ffermdy o'r enw "Faenol Isaf", Tywyn, Gwynedd, ardal o wastadeddau arfordirol i'r de o'r dref. Gelwid y fferm yn Ysgubor Ddegwm cyn 1871[1], y Faenol yn 1871 [2], a Faenol Isaf erbyn 1881[3]. Stad o dai yw'r Faenol Isaf erbyn heddiw, yn rhan o dref Tywyn ond gellir gweld yr hen ffermdy (tŷ anedd gyda gardd fach yn unig) ar ben isaf y stâd gyda'r ysgubor ('Scubor Ddegwm) y tu ôl iddo a hen fwthyn (y Faenol Fach) wrth ei ymyl.

Ffermdy Faenol Isaf, Tywyn

Mae'r ddogfen wreiddiol wedi ei chadw yn Archifdy Meirionnydd (Dolgellau), Gwynedd dan y côd cofrestru Z/M/3192/1

Cyfnod y dyddiadur[4][golygu | golygu cod]

Ysgrifennwyd dyddiaduron Edward Edwards rhwng 1873 a 1886. Er mai ystad Ynysymaengwyn oedd perchen mwyafrif helaeth y tir yn yr ardal, yr Eglwys Anglicanaidd oedd perchnogion Faenol Isaf. Y meistr tir oedd John Jones Brown, Rheithior Llandanwg[5]. Lewis, Dolgellau oedd ei asiant ac aeth Edward i Ddolgellau pob mis Rhagfyr i dalu rhent[4]. Efallai mai'r peth mwyaf nodedig o anghyffredin am y dyddiaduron, gan eu bod wedi ysgrifennu yng nghyfnod y “Welsh Not”, yw eu bod wedi'u hysgrifennu yn Gymraeg.

Mae'n amlwg fod yr awdur wedi cael ychydig o addysg Saesneg ond mae’n ysgrifennu popeth yn union fel y buasai yn ei ddweud ar lafar. Nid yw’n defnyddio atalnodi ac mae llythrennau bras yn cael eu defnyddio ar gyfer y geiriau sy’n pwysig iddo.

Mewn cyfnod pan oedd crefydd yn bwysig yr oedd Edward yn aelod yng Nghapel Bethel (MC), Tywyn[6], ac yn bresennol o leiaf ddwywaith bob Sul, gan enwi pob pregethwr a nodi testun pob pregeth yn ei ddyddiadur[4].

Y Clawdd Llanw i'r dde o Dywyn

Cefndir Daearegol[golygu | golygu cod]

Morfa i'r de o Dywyn
Aber afon Dyffryn Gwyn (heddiw)

Wrth deithio o Dywyn i Aberdyfi heddiw nid yw'n amlwg pam fod y ffordd a'r rheilffordd mor bell o'r môr. Yn y 19g yr oedd cors rhwng y ffordd a'r môr, gyda Llyn y Borth i'r de o fferm Penllyn, a phan oedd y llanw'n uchel gorlifai dŵr hallt dros y gors. Lledaenai afon Dyffryn Gwyn dros y tir mewn cyfnodau o law trwm. Adeiladwyd "clawdd llanw" i gadw'r llanw rhag llifo dros y gors a gwacawyd y llyn rhwng 1862-4[7].

Safle Llyn y Borth, Tywyn, ar ôl ei ddraenio yn 1862-4.

Agorodd y rheilffordd rhwng Tywyn a Machynlleth yn 1867[8] gan dorri drwy dir cymdogion Edwards, Faenol Uchaf ac Esguan. Crewyd camlas o dan y ffordd a'r rheilffordd i gyfeirio dŵr afon Dyffryn Gwyn yn syth at y môr. Arhosodd hyd yn oed y tir a oedd yn uwch na lefel y llyn yn llawer gwlypach na heddiw. Weithiau drylliwyd y clawdd; yn 1877 cofnodir "clawdd llanw wedi torri"[4], ac yn 1879 "dŵr yn dywad dros y morfa"[4].

Gweithiodd Edward, ei fab a'i nai, yn galed i sychu'r tir yn y darn morfa agosaf atynt. Eu dull oedd torri ffosydd neu "trensis" a'u llenwi a cherrig a rhoi pridd drosdynt. Buont yn torri'r brwyn ac yn cario llwythi o dywod ac weithiau pridd neu ddaear galed i'w lledaenu ar draws y tir corsiog. Hwn oedd dull y cyfnod o hwyluso rhediad y dŵr o'r tir i'r ffosydd cyfagos. Erbyn 1879 bu'n bosibl aredig rhannau o'r morfa a thyfu ambell gnwd ond yr oedd cloddio ffosydd rhwng caeau a ffermydd yn waith rheolaidd. Mor hwyr ag 1886 buont "yn torri trensis yn y cae newydd"[4], cae oedd uwchben y ffermdy.

Bu dau fath o bridd ar y fferm. Mae yna olion hen lwybr troed oedd yn cysylltu ffermdai Penllyn ac Esguan Isaf; oedd yn pasio islaw Ysgubor Ddegwm a fuasai wedi dilyn ymyl Llyn y Borth cyn y'i draeniwyd. Islaw'r llwybr mae'r pridd yn gwaddol o laid, tywod a cherrig mân a olchwyd i lawr afon Dyffryn Gwyn ac a ollwngwyd yn y llyn, (oedd yn dair troedfedd o ddyfnder pan ddraeniwyd ef ond mae'n debyg yr oedd yn dyfnach mewn cyfnod blaenorol.) Mae'r tir uwch, ar ochr arall y llwybr yn clai clog neu "Devensian till" sef y gwaddol a gadewyd gan rhewlif ar ddiwedd y cyfnod olaf o rhewlifiant.[9] Mae'r tir hwn, sy'n estyn o dan dref Tywyn yn cynnwys llawer o gerrig.

Muriau cerrig yn yr hen dref; chwith c.1750, dde a'r canol: cyn 1694

Defnyddiwyd y cerrig hyn i adeiladu y rhannau o'r dref sy'n hyn na dyfodiad y rheilffordd ond bu rhaid hela cerrig o'r caeau yn gyson cyn tyfu cnydau.

Cefndir teuluol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Edward Edwards yn 1811 yn Ysgubor Ddegwm, yn un o wyth o blant, i Rowland Edward a’i wraig Ann Thomas[1]. Bu farw pedwar o’i chwiorydd yn fenywod ifanc di-briod. Priododd Thomas, unig frawd Edward, yn 1845 ond nid oes cofnod amdano wedyn; efallai mai ef yw awdur y llythyron o America y mae Edward yn cyfeirio atynt yn y dyddiaduron. Cyfeirir yn aml at deuluoedd y ddwy chwaer arall. Priododd Catherine a Richard James, saer coed, a symudodd i fyw yn Ysgubor Ddegwm gyda’i fam yng nghyfraith[10]. Cawsant tri o blant, Mary, Ann (Davies) a Morris (saer ac adeiladwr fel ei dad a cynorthwyodd gyda estyniad i'r ffermdy). Priododd Edward a’i chwaer Jane â dau o blant Hugh Richard a Sarah Jones, Cil y Parc[1]. Priododd Jane a John Richard ym 1832. Erbyn cyfnod y dyddiaduron mae Jane yn wraig weddw, yn byw gyda’i mab, Hugh, mewn bwthyn yn ymyl fferm Sandiland[2].

Yn 1851 yr oedd mam a chwaer Edward yn dal i fyw yn Ysgubor Ddegwm a theulu o'r enw Evans yn y bwthyn cyfagos, y Faenol fach[10]. Priododd Edward ag Elizabeth Richard, neu Betty fel y cyfeirir ati, yn 1843. Buont yn byw yn Sgwar Corbett am gyfnod a bu Edward yn gweithio yn gwerthu glo yn ogystal â gweithio ar y fferm.

Cafodd Edward a Betty dri o blant, Rowland yn 1844, Sarah yn 1850 ac Elizabeth, a elwid Eliza, yn 1856[2]. Aelod arall o'r teulu oedd Rowland Owen, mab Ann, chwaer Betty. Priododd Ann a Hugh Owen a chawsant chwech o blant ond bu farw Ann yn 1851 yn fuan ar ôl geni Rowland[10]. Aeth y plant i gyd i fyw gyda pherthnasau. Mae'n debyg fod Betty wedi cymryd y baban Rowland gan ei bod hi wedi esgor ar Sarah flwyddyn ynghynt ac felly yn gallu bod yn fam faeth iddo. Gan fod mab eisoes gan Edward a Betty a hwnnw hefyd yn dwyn yr enw Rowland, mae dryswch rhwng y ddau ar adegau yn anochel, ond mae'n amlwg fod Rowland Owen wedi ei drin fel mab ar aelwyd Faenol Isaf. Cyfeirir yn aml at y ddau Rowland, neu at Rowland mawr a Rowland bach, neu Rowland Edwards a Rowland Owen, ond nid oes unrhyw gyfeiriad at y Rowland hynaf fel "Rowland ni".

Bachgen a weithiodd ar y fferm ambell waith oedd Joseph Owen. Nid oes cofnod o'i eni ond mae'n debygol mai perthynas i Rowland Owen ydoedd gan iddo ymweld a Bodilan fach yng Nghwm Llan, lle trigai Owen Owen, un o frodyr Rowland a'i deulu. Mae'n bosibl iddo fyw yn Faenol Isaf er mwyn mynychu ysgol yn y dref. Yn 1873 cofnodir "Joe bach yn mynd i ddechrau ysgol."

Ymwelwyr rheolaidd â'r Faenol Isaf oedd teulu o Lerpwl, sef John a Mary Orrell (fe'i sillefir fel Hurrell weithiau) a'u plant; Price, Eliza, Amelia (neu Emeline) a Samuel[11]. Er nad yw'r cyfenw yn ymddangos ond unwaith yng Nghymru yn 1808[12] ganwyd pob un ohonynt yng Nghymru; a John, Mary ac Eliza ym Meirionnydd. Nid oes modd dangos eu bod yn perthyn i deulu Faenol Isaf ond mae eu hymweliadau cyson yn awgrymu perthynas agos, yn enwedig rhwng Betty Edwards a Mary Orrell a arhosodd i ofalu am Betty fwy nag unwaith.

Rhwng 1876 a 1881 bu nifer o newidiadau yn y teulu. Ar ddechrau Ebrill 1876 cofnodir “Eliza yn bir sâl” a phump diwrnod wedyn “Eliza fach yn marw” ac ar y 12fed “Claddu Eliza fach Annwyl yn y byd”. Collodd Edward ei wraig Betty ddwy flynedd ar ôl Eliza, ar ôl gwaeledd hir. Mor bell yn ôl a 1873 mae cyfeiriadau at "Betty yn sal" a "Dr yma" yn gymysg ag ymweliadau ganddi i gartrefi cyfagos. Yn 1875 sonnir am ymweliad wythnos i Landrindod gyda Mary Orrell ac Eliza. Erbyn 1876 mae'n ymddangos ei bod yn rhy wan i fentro ymweld a chyfeillion heb aelod arall o'r teulu gyda hi. Mae cyfeiriadau at ei gwaeledd yn mynd yn brinach; yn rhy arferol i nodi. Ym mis Ionawr 1878 mae Rowland yn mynd â hi i weld ei chwaer yng nghyfraith yn Sandiland. Yn sydyn ar y 9fed o Fehefin mae Edward yn cofnodi, yn ôl ei arfer, y tywydd yn gyntaf; wedyn pwy oedd yn pregethu: “Diwrnod cawodog braidd trwy y dydd. Mr Humphreys, Barmouth yn pregethu. Betty yn marw 10 munud wedi un ar ddeg,”[4]. Dyn o ychydig eiriau oedd Edward ond maent yn siarad cyfrolau. Y diwrnod wedyn “Diwrnod ffeind trwy y dydd. Golchi ar ôl Betty fach Annwyl yn y byd yma,” ac ar y dydd Iau “Diwrnod ffeind anghyffredin. Claddu Betty fach, annwyl, annwyl.” Ond os prin yw’r geiriau, gallwch weld, ym mynwent yr eglwys, ymhlith y rhesi o lechfeini, cofgolofn o farmor a godwyd gan Edward er cof am ei wraig.

Cofgolofn teulu Edwards ym mynwent eglwys Cadfan, Tywyn

Yn ystod gwaeledd ei mam dychwelodd Sarah o Lerpwl i fyw adref ac yn y cyfnod rhwng marwolaeth Eliza a marwolaeth Betty bu Mary James (nith Edward) yn byw yno hefyd. Yn 1879 priododd Sarah â John David Griffiths, Cymro o Lundain ond gyda'i wreiddiau yng Nghorwen. Aethant i fyw i Lundain ond mae'n ymddangos na chafodd John waith sefydlog yno. (Cyfeirir ato fel saer yn 1881[3] ac fel dyn llefrith yn 1891[13]). Treuliodd y ddau, a'u plant Tedi a Joni, gyfnodau hir yn y Faenol Isaf.

Daw'r cyfeiriad cyntaf at Catrin yn byw ar y fferm yn 1880. Priododd hi a Rowland Owen yn gynnar yn 1881 ac arhosodd y cwpl ifanc yn y Faenol Isaf am gyfnod. Disgrifir Catrin fel "Housekeeper" yng nghyfrifiad 1881. Symudasant i fwthyn ar Ffordd Neifion wedyn. Nid oes son am "y ddau Rowland" ar ôl Ebrill 1882 ond cyfeirir yn llawer amlach at John Griffiths a Joseph Owen yn gweithio ar y fferm a chyfeirir yn amlach at y plant (sef plant Edward a pherthnasau eraill o'r un oed a hwy) yn cydweithio ar y fferm.

Enw newydd arall oedd Lisa. Mae hi'n ymddangos fel cyfaill i Sarah yn 1883, yn cynorthwyo gyda'i phlant bach, ond yn raddol fe'i cysylltir fwyfwy gyda Rowland Edwards. Mae'n debygol mai hi yw'r Elizabeth Evans a briododd â Rowland yn 1886 yn fuan ar ôl i'r dyddiadur ddod i ben.[1]

Gwaith[golygu | golygu cod]

Y Ffermdy a'r Caeau

Ar restr ar gyfer treth y degwm cyfeirir at "Scybor ddegwm" gyda Rowland Edward, tad Edward fel tenant[5] a rhestrir house, buildings, yards and garden. Cyfeirir at wanws, bwtri, beudy, cyt y moch yn y dyddiadur. Cyfeira'r Rhestr Ddegwm at "cae newydd, cae canol, cae pen y cefan, cae'r eithin, cae'r ydlan, cae dau gyfer, cae pedwar cyfer, ( y rhain i gyd yn clai clog, gweler uchod) a'r weirglodd fawr, weirglodd tan y tŷ a "part of Penllyn Pool" (y wern a'r morfa yn y dyddiadur) ble oedd y tir yn gwaddol o'r afon. Dangosir dau gae dienw[14]; gallai rhain fod yn "cae bach" a "llain" fel y'u henwir yn y dyddiadur gan eu bod yn cyfateb i'w maint a'u ffurf.

Capel Bethel, Tywyn
Mur cerrig o gwmpas Bethel, Tywyn

Gwaith adeiladu[golygu | golygu cod]

Gellid tybio fod rhywfaint o waith ehangu ar y tŷ anedd wedi digwydd ar ôl priodas Edward a Betty. Yn 1875 mae Morris James, nai Edward, yn "dechrau llofft"; "gwneud y seiling", "plastro lloft y parlwr" a "llofftio". Mae'n debyg fod Edward a'r ddau Rowland wedi gwneud llawer o'r gwaith adeiladu eu hunain. Arferai adeiladu gyda chymysgedd o gerrig a godwyd o'r caeau a cherrig o lan y môr0. Pan benderfynnodd henaduriaid Eglwys Bethel, Tywyn adeiladu capel mwy ei faint yn 1871 "darfu i ffermwyr a chertwyr yr Eglwys gario y defnyddiau at ei adeiladu yn rhad ..... ac fe gododd Mr John Daniel, Caethle, a'i was yn fore fore er mwyn cael mynd â'r llwyth cyntaf at y deml newydd, ac aed i lan y môr am lwyth o gerrig ...... gan fod y llwyth yn drwm torrodd echel y drol a methwyd myned gam ymhellach, a daeth Mr Rowland Edward, y Vaenol, a'i lwyth heibio iddynt[15]).

Gellir tybio mai'r un dulliau a ddefnyddwyd ar gyfer ehangu Faenol Isaf. Cyfeirir at waith pwyntio'r tŷ a'r ysgubor, sydd hefyd yn awgrymu adeiladau o gerrig anwastad. Defnyddiwyd gwellt neu frwyn ar gyfer toi, e.e. "mendio to y scybor efo brwyn" a rhwng 1875-7 torrodd llawer mwy o frwyn nag mewn blynyddoedd eraill, efallai ar gyfer to i'r rhan newydd o'r tŷ, neu efallai cedwid gwellt ar gyfer to'r tŷ gan ddefnyddio brwyn at ddibenion eraill, fel rhoi gorchudd ar y tasau gwair. Yn 1877 nododd Edward eu bod "yn clirio lle i wneud tŷ bach" ac yn 1879 "hela cerrig a gwneud lle tân yn y tŷ newydd".

Gan nad oedd coed yn tyfu ar y gwastatir yn agored i wynt y môr ac nid oedd modd torri mawn ar ôl sychu'r corsdir, glo oedd prif tanwydd y fferm. Bu angen mofyn 1/2 neu 1/4 tunnell o lo o'r dref yn rheolaidd. Bu'n rhaid mynd yn bell i casglu brigau i gynnau tân. Aeth i "mofyn llwyth o friga yn Dyffryn Gwyn efo gwagen Penllyn a benthyg y gaseg" a "mofyn coed yn Peniarth Uchaf efo Watkin, Penllyn."[4]

Da byw[golygu | golygu cod]

  • Gwartheg

Yn 1873 cedwid pump buwch, Blacan, Buty, Lady, Harriet a Meinwen. Erbyn 1876 mae Littlan a Cochan i'w cael. Yn 1877 sonnir am ferch Harriet a merch Meinwen ond yn raddol mae'r enwau yn diflannu. Erbyn 1883-4 cyfeirir at y fuwch goch benwen, y fuwch fraith, y fuwch goch hynaf a'r fuwch goch ieuengaf. (Gellid tybio mai Betty neu Eliza oedd yn enwi'r gwartheg.) Mewn patrwm cyson mae un fuwch yn mynd at y tarw ym mis Chwefror a thair neu bedair arall dros yr haf. Cofnodir genedigaeth llo ym mis Tachwedd a tair neu pedair llo ddiwedd mis Ebrill neu ym mis Mai. Er nad oes sôn am gorddi ar ôl 1873 mae'n ymddangos fod Faenol Isaf yn cynhyrchu eu caws a'u menyn eu hunain gan werthu ambell anifail nad oeddent ei angen. Mae'n sôn unwaith am werthu gwartheg yn ffair Machynlleth, unwaith am werthu gwartheg yn ffair Abergynolwyn ac ar dri achlusur gwerthu fuwch, tarw a gaseg yn ffair Tywyn

  • Defaid

Gwahaniaethodd Edward rhwng "anifeiliaid" a "defaid". Bu ganddo drefniant gyda Morgan William, Rhyd Galed, yn y mynyddoedd uwchben Pennal, i ofalu am ei ddefaid dros y gaeaf. Cofnododd "y defaid yn dywad yma" ar ddechrau mis Tachwedd pob blwyddyn ac "y defaid yn mynd adra" ddiwedd mis Mawrth (yr enw ar yr arferiad hwn o aeafu defaid o ffermydd yr uchedir yw defaid cadw neu ddefaid tac TE). Daeth Morgan a'i fab Thomas i fwrw golwg trosdynt a'u trin pan oedd angen. Treuliodd Thomas ambell ddiwrnod yn gweithio yn Faenol Isaf ac aeth Rowland a Sarah i Ryd Galed yn achlusurol i ymofyn coed neu eirin.

  • Moch

Anfonai'r hwch at y baedd ddwywaith y flwyddyn. Nododd fod hwch wedi esgor ar berchyll ddwywaith y flwyddyn a thua mis wedyn "mae Joseph yn torri ar y perchyll". Cedwid rhai o'r moch trwy'r flwyddyn. "Dyrnwyd haidd i'r moch" ac "aeth at y Felin am flawd i'r moch" a berwodd "gwchenad o datws i'r moch"[4]. Trosglwyddodd rhai ohonynt yn fyw i berchennog arall: e.e."hebrwng dau fochyn i Bennal" a "plant yn mynd a'r moch i'r dre" ond eraill yn cael eu lladd a'u pwyso. Mae ambell mochyn bach yn mynd at ddwy nith weddw Edward. Arferai ladd mochyn cyn y Nadolig ac anfon hanner i Jane Richard, gwraig weddw a chwaer Edward.

  • Ceffylau

Cedwid dwy gaseg a chyfeirir yn rheolaidd at un ohonynt yn cymryd stalwyn. Cafodd Jole chwech o ebolion dros ddeuddeng mlynedd y dyddiadur, a Boney ac wedyn Darly, un yr un. Cedwid yr ebolion am ddwy neu dair blynedd, eu pedoli a dechrau eu hyfforddi gan "(g)weithio y bolas i droi ochr yn ochr yn y cae"[4] ac wedyn eu gwerthu.

Cnydau[golygu | golygu cod]

  • Gwair

Tyfwyd digon o wair i gynnal eu hanifeiliaid trwy'r gaeaf. Prif waith mis Gorffennaf oedd torri gwair, cyweirio gwair, hela gwair a chario gwair. Weithiau parhaodd y gorchwylion hyn i mis Awst ac wedyn bu rhaid toi y mydylau neu'r tasau (teisi) gwair. Defnyddwyd brwyn a torrwyd yn y morfa i gwneud y toi. Arferent gwneud eu rhaffau eu hun ar gyfer y gwaith hwn.

  • Tatws

Tatws oedd prif gnwd y fferm ac fe'u tyfwyd er mwyn gwneud elw. Cyfeirir at weithio gyda'r tatws, fel prif waith y dydd, teirgwaith yn fwy aml nag unrhyw gnwd arall. Mae Edward yn gwahaniaethu rhwng "plannu tatws i ni ein hunain" a "plannu tatws i bobol diarth". Prif orchwyl mis Hydref oedd mynd â llwythi o datws i Dywyn. Roedd sawl rhes o dai teras yn y dref oedd angen cyflenwadau o datws arnynt ac yr oedd Faenol Isaf mewn safle cyfleus i ddarparu ar eu cyfer.

  • Swedj ayb

Tyfai wraiddgnydau fel swedj (swege yn iaith Edward) a mangols (yn borthiant i'r anifeiliaid dros y gaeaf TE). Swedj oedd y prif wreiddyn arall. Roedd hofio rhwng rhain a chwynnu yn waith angenrheidol ym misoedd Mai a Mehefin. Cyfeiriodd yn fynych at y cnwd fel Swedish: "Iau 25 Mehefin 1874 diwrnod sych nina yn plani Swedish wedi ei cau o forfa Towyn".

  • Ydau

Tyfwyd gwenith, haidd a cheirch. Arferai hau gwenith ym mis Tachwedd a cheirch a haidd ym mis Ebrill a mis Mai, cyn cynaeafu y tri cnwd trwy mis Awst a mis Medi. Mae Edward yn cyfeirio at "engan dyrnu" (yr injan stêm oedd yn troi y dyrnwr) oedd angen glo fel tanwydd. Cafodd hwn ei rannu rhwng ugain o ffermydd a diwrnod neu ddau yn unig y parhaodd y cyfle amdano cyn iddo gael ei symud i fferm arall. Ar y diwrnodau hyn daeth nifer o'r ffermydd cyfagos i cynorthwyo. Mae Edward yn nodi "dyrnu trwy y dydd, dau o'r Faenol [uchaf], dau o Glanymor. Thomas William, Robert Roberts, Rowland Owen ["gyda ni"][4] Gwneid gweddill y dyrnu gyda ffust ac yr oedd angen nithio. Byddai'r gwaith o ffustio a nithio yn parhau trwy fisoedd y gaeaf yn ôl yr angen neu pan oedd y tywydd yn wael a phan oedd gorchwylion eraill yn caniatáu. Cyfeirir yn aml at aelodau'r teulu yn mynd i Felin Dolau Gwyn, naill ai gyda grawn neu i casglu blawd.

  • Ffa

Tyfent ychydig o ffa ond anamal yw'r cyfeiriadau atynt mewn saibiau rhwng gorchwylion eraill ac mae'n ymddangos y buont yn tyfu digon at eu defnydd ei hun yn unig.

Cynnal y tir[golygu | golygu cod]

  • Cerrig

Roedd cerrig yn drafferthus yn y caeau a bu angen eu "hela" ym mis Mai cyn fod cnydau wedi tyfu yn rhy uchel. Gwahaniaethir yn gryf rhwng hela cerrig (ym mis Mai) a cario neu casglu cerrig. Gellid cario cerrig ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Buont yn ddefnyddiol, fel y rhai a helwyd ym mis Mai, naill ar gyfer gwaith adeiladu, neu i lenwi "trensis" i ddraenio; e.e. "dechrau hela cerrig a thrwy y dydd a'u cario i'r wern" neu " cario cerrig i'r cae newydd o glan y môr i draenio"[4]. Codwyd mwy o gerrig o'r caeau fel nad oedd rhaid eu nôl o lan y môr. Torrai frwyn ym misoedd yr haf i wella ansawdd y tir ond defnyddwyd y brwyn i doi ar fydylau ac i trwsio'r toi. Aeth gwaith arall y fferm yn ei flaen yn gyson. Cofnodir gwaith fel troi tir, braenaru, chwynnu, teilo a thrwsio'r cloddiau rhwng y gorchwylion yr oedd angen eu cyflawni ar adeg a benodwyd gan y tymor a'r tywydd.

  • Torri ysgall

(sillefir hefyd gan EE fel esgill neu esgyll) Gorchwyl achlysurol iawn gan Edward oedd torri ysgall (efo pladur mae'n debyg). Nododd ym mha gae roedd yn gwneud hyn mewn dau o'r pum cofnod, sef y Pedwar Cyfar (1881), a'r Weirglodd Fawr (1883). Bu'n torri'r ysgall ym mis Mehefin (1 cofnod), Gorffennaf (2) ac Awst (2).

Cefndir Cymdeithasol y Gwaith[golygu | golygu cod]

Gwelodd Edward newidiadau mawr yn ystod ei fywyd. Ym 1851 cofnodir pump o ffermydd rhwng Glanydon a Caethle, sef Maes y Llefrith,

Ffermdy Maes y Llefrith; Caffi Pebbles heddiw

20 acer; Penllyn, 180 acer, Ysgubor Ddegwm, 30 acer; Esguan 100 acer ac Erw Waedd, 60 acer gyda phobl leol yn ffermio pob un.[10] Erbyn 1871 nid oes sôn am Maes y Llefrith nac Erw Waedd; hyd yn oed fel trigfannau. Mae Penllyn tua’r un faint; ond mae Esguan wedi ehangu i 330 acer. Ni oes sôn am Ysgubor Ddegwm na Faenol Fach ond mae Faenol (Isaf) a'i 45 acer yno, a'r Faenol Uchaf, 80 acer[2]. Mae Esguan, Penllyn a Faenol Uchaf i gyd yn gartrefi i deuluoedd sydd wedi symud i mewn o bell gan adael Faenol Isaf fel yr unig fferm mewn dwylo lleol.

Cydweithiodd Faenol Isaf yn aml gyda'r tri fferm oedd yn ffinio â hwy. Y Faenol (uchaf) oedd y fferm agosaf o ran maint. Yn y saithdegau cyfeirir at y Faenol pan oedd angen trwsio cloddiau rhwng y ddwy fferm yn unig. Yng nghyfrifiad 1881 cofnodwyd bod hwsmon yn gofalu am y fferm ond yn fuan wedyn daeth Henry ac Elizabeth Jones a'u teulu yno. Cyfeiriodd Edward at Henry yn gyson ac mae elfen o gydbwysedd yn y cydweithio rhwng y ddwy fferm.

Adfeilion Ffermdy Esguan Isaf ger Tywyn

Esguan oedd y fferm fwyaf yn nechrau cyfnod y dyddiadur; Evan a Mary Newell oedd yn ffermio yno. Cyfeiriwyd tua chant o weithau at weithio yn Esguan yn nwy flynedd cyntaf y dyddiadur. Erbyn 1876 cyfeirir at gludo llwythau o dywod a grafel i Fod Talog (fferm ger Esguan) ar ran Newell. Symudodd teulu Thomas a Mary Edwards i'r hen ffermdy Esguan Isaf yn nechrau 1878[15] a ffermio'r 40 acer yno. Erbyn 1881 yr oedd teulu Newell yn byw ym Mod Talog (wedi ailenwi yn Riverslea dros dro[3]). Fe drigodd teulu Hugh Pugh yn "Esguan Farm" gyda 74 acer ond mae'n ymddangos fod Newell wedi cadw cyfran helaeth o dir Esguan.

Gyda thrigolion Penllyn yr oedd perthynas Faenol Isaf agosaf. Ganwyd Edward Watkins, "Watkin Penllyn" oedd yn ffermio yno, ym Maldwyn ond un o Dywyn yn wreiddiol oedd Mary ei wraig, a bu ganddynt fab, John Job[2]. Cyfeirir yn aml hefyd at Evan Penllyn Jones yn pregethu yng nghapel Bethel. Mae bron un mil a chant o gyfeiriadau at gydweithio rhwng Faenol Isaf a Phenllyn gyda dros fil ohonynt yn cyfeirio at rywrai o Faenol Isaf yn gweithio ar dir Penllyn.

Ffeiriau

Mae Edward yn nodi pan fo ffair yn Nhywyn ond nid yw'n ymddangos ei fod wedi gadael gartref llawer (heblaw am fynychu'r Capel) Aeth naill i ffair Tywyn neu i ffair Machynlleth, ac unwaith i ffair Abergynolwyn i werthu anifeiliaid. Aeth i Ddolgellau pob mis Rhagfyr i dalu rhent. Mae'n ymddangos fod eraill o'r teulu wedi mentro i Machynlleth neu Dolgellau am ddiwrnod o fwynhad. Ymwelodd Betty â theulu neu gymdogion yn weddol aml pan oedd hi'n iach. Ym mis Tachwedd 1875, wythnos y sioe, arhosodd Betty ac Eliza am ychydig ddyddiau yn Nolgellau. Aeth Rowland i ffair Machynlleth nifer o weithiau, gyda chwmni ambell waith, ac ni rhoddir rheswm am y daith. Yn 1880 a 1885 mae'n mynd mor bell â'r Bala at y sioe (Sioe Sir Feirionnydd mae'n debyg), yr ail dro gyda Lisa a Tedi, mab Sarah oedd yn 5 oed.

Gwaith nas sonir amdano

Gall absenoldeb cofnodion mewn dyddiadur olygu dau beth; naill ai oherwydd bod y gorchwyl yn gyffredin ac yn hanfodol, neu am nad oedd yn rhan o fywyd y dyddiadurwr o gwbl. Nid yw Edward yn cofnodi'r gweithgareddau mwyaf sylfaenol. Nid oes sôn am fwydo anifeiliaid, na godro’r fuwch ac mae gorchwylion ei wraig a’i ferched yn paratoi bwyd, golchi a glanhau yn digwydd mor ddidrafferth iddo fel na font yn haeddu sylw heblaw am nodi y diwrnodau prin pan nad oedd Betty, Sarah ac Eliza gartref. Yn 1877 cyfeirir at "yr ardd newydd" ond heblaw am un cyfeiriad at gennin, tri at foron ac ambell gyfeiriad at faip nid oes unrhyw beth i awgrymu sut y defnyddwyd yr ardd. Dim ond unwaith y cyfeiriodd at 'mofyn eirin' (er fod Robin Owain, oedd yn byw yn un o'r tai cyntaf a adeiladwyd ar y stad yn y1970au, yn cofio gwrychoedd llawn o eirin duon a bu'n eu casglu tair gwaith y flwyddyn i wneud jam.[16] Unwaith cofnododd: "Sarah a'r teulu yn hela elderberis". Dwywaith y cyfeirodd at hela cregyn duon ac unwaith at blingo cwningen ond ni wyddom y graddau bu'r gweithgareddau hyn yn cyfrannu at fywyd y fferm. Nid oes sôn am ieir er mor anodd yw meddwl am fferm fel Faenol Isaf heb ddofednod o gwbl.

Cyfrifon a Diffyg Cyfrifon

Prin yw'r cyfeiriadau at arian yn y dyddiadur. Yn 1873 nodir "llo bach yn trigo gwerthu y croen i Newell am 2/-" ac yn 1874 "gwerthu yr heffer i Newell am £11.00." Mae'r mwyafrif yn cyfeirio at ddefnyddio ceffyl a throl i symud deunydd megis cerrig, grafal, coed a brics a deunydd adeiladu arall am John Roberts, Glanymor. Cyfeirir hefyd at cludo grafel i Ffordd yr Orsaf i'r "Local Bord" a gwahannol nwyddau i Evan Newall. Mae'n ymddangos fod y talu arferol ar gyfer defnydd dyn, ceffyl a throl am ddiwrnod oedd rhwng 12 a 13 swllt. Mae'n ymddangos fod Edward yn arbennig o ofalus wrth gofnodi gwaith i Newell, dyn oedd yn newydd i'r ardal; e.e. " carring oats from half past ten in the morning till eleven at night" a "yn Esguan yn cario yr ŷd oddi wrth yr engan am ddeg awr a haner." Yn 1876 cofnodir "Elizabeth Rowland to Edward Edwards 1 side of Pork weigh 116lb at 6d lb ....£2.18.00" ac "from Henry Roberts in working remainder of pay for the pig 9/-" Nid oes unrhyw sôn arall am arian yn newid dwylo, heblaw am dalu'r ddegwm.

Bu cydweithio rhwng ffermydd yn arferol; mor arferol nes ei fod yn anodd iawn dehongli sut y'i trefnwyd o gwbl gan mai ar lafar a thrwy cyd-ddealltwriaeth y digwyddai'r cwbl. Mae ambell esiampl unigol. Ym Mawrth 1883 benthycodd Rowland geffyl Mr Richards, Pall Mall (neu Pêl Mêl yn iaith Edward) am ddau diwrnod i droi tir; a'r wythnos wedyn treuliodd bedwar diwrnod yn Pall Mall yn troi yno. Mae ambell cyfeiriad megis "John Vaughan yma efo nyni" neu "Rowland bach yn Penllyn yn lle Griffith Pugh" yn awgrymu cyfnewid diwrod o waith yn lle talu arian.

Roedd trefn ynglŷn a symud yr 'engan' ddyrnu rhwng y ffermydd a ddilynai batrwm rheolaidd. Cofnododd sawl ymweliad gan Jonas i wneud dillad y teulu neu i'w trwsio. Nodir pob tro pan elai heffer at darw neu hwch at faedd. Aeth a grawn i'r Felin a daeth a blawd yn ôl. Nid oes cyfeiriad at unrhyw gydnabyddiaeth ar gyfer y gweithredoedd hyn. Beth oedd y trefniant efo Morgan William, Rhyd Galed am ofalu am ei ddefaid? Sut oedd y gwaith a wnaethpwyd ar fferm Penllyn yn cael ei gydnabod? Oedd ambell fochyn bach neu sachaid o datws yn rhoddion? Nid oes sôn am unrhyw fath o daliad.

Mae'r dulliau o gyfnewid cymorth mewn cymdeithas gwledig wedi eu cyfrif a'u mesur[17]. Rhwng llinellau'r dyddiadur gellir synhwyro economi wedi ei sylfaenu nid ar arian ond ar gyfnewid cynnyrch a chymwynas. Ymddiredai Edward mewn arferion oedd wedi parhau'n ddigwestiwn ers cyn cof, a felly ni welodd angen i'w cofnodi. Yn anffodus mae'r trefniadau hyn wedi eu cuddio rhagom.

Gwerth y dyddiaduron hyn heddiw[golygu | golygu cod]

Mae’r dyddiaduron yn rhoi ffenestr i ni weld trwyddi ar fywyd teulu cyffredin a phatrwm gwaith blynyddol ar fferm 45 acer mewn cyfnod pan nad oedd peiriannau ar gael i wneud gwaith trwm neu undonog. Mae ei ddyddiadur hefyd yn gofnod o Gymraeg byw Bro Dysynni mewn cyfnod pan na ddeallai mwyafrif y bobl y Saesneg.

Tywydd[golygu | golygu cod]

Tynnir ar gronicl tywydd Kington 2010 ar gyfer yr adran hon, gyda sylwadau EE i'w cymgharu fel bo'n briodol (gan amlaf dyddiadau eithafion tywydd). Seiliodd Kington ei wybodaeth tymheredd a glaw eithafol ar gyfres y Central England Temperature o 1659, a'r England and Wales Precipitation (EWP) o 1766 ymlaen, sef y ffynhonnell glaw perthnasol i ddyddiaduron Edward Edwards.

Cyfnodau (degawd)
  • 1870au

Un o nodweddion cyffredinol y ddegawd hon oedd amlder y "sefyllfaoedd gorllewinol" (cyfartaledd o 87 y flwyddyn rhwng 1870 ac 1879). Fel canlyniad, goruchafodd mathau o dywydd seiclonig lled-sefydlog yn fynych gan rwystro hynt y llif awyr dros Brydain am gyfnodau sylweddol. Credid bod yr Oes Ia Fechan" bellach wedi dod i ben (nes i iddo ail-afael tua diwedd y ddegawd a pharhau i'r nesaf.) Roedd 1871 yn gyfnod o cyffro'r smotiau haul.[18].

  • 1880au

Gyda chyfartaledd o 85 "sefyllfa gorllewinol" y flwyddyn gwelwyd gostyngiad bychan yn y llif gorllewin-dwyrain (zonal flow) yn y cyfnod hwn o dywydd cyfandirol. Cafwyd cynnydd yn amlder cyfnodau antiseiclonig ataliol (blocking). Gwelwyd cynnydd yn rhewlifoedd yr Alpau a symudiad at rewlifoedd newydd yn yr Alban. Gaeafau oer nodweddodd y ddegawd, a bu farw cannoedd o oerfel yn slymiau Llundain. Gallai trai yng nghyffro'r smotiau haul ar ol anterth y '70au cynnar fod wedi cyfrannu at y newid yma. Yn 1882 dechreuodd gyfres o 13 mlynedd o flynyddoedd sych.

  • 1890au

Cychwynodd y ddegawd gydag amodau sych antiseiclonig yn ymestyn o Iwerddon i Siberia, gan beri pryder bod cyfnod oer yr Oes Ia Fechan yn mynd i ddychwelyd, yn enwedig ar ôl gaeaf oer iawn ('Yr Heth Fawr') yn 1895, pan rewodd y Tafwys unwaith eto. Fodd bynnag, ail-sefydlodd hinsawdd arfordirol o 1896 gan hebrwng cyfnod cynnes yr 20ed ganrif cynnar.

Blynyddoedd unigol

Mae'r paragraff cyntaf o dan pob blwyddyn wedi ei seilio ar sylwadau dethol o un ffynhonell o dywydd Prydain, sef Kington (2010)[18]. Ymgeisiwyd i ddethol o'r gyfrol er mwyn cymharu sylwadau Kington gyda rhai EE yn Nhywyn. Dilynnir y paragraff gan sylwadau EE sy'n berthnasol i'r tywydd, boed yn cydfynd a'r sefyllfa gyffredinol neu'n groes iddi.

  • 1873

Kington 2010: Ionawr 1-18, tyner, gwyntog; 19 Ionawr dechrau cyfnod oer; 30 Ion-2 Chwef ac eto 23-25 Chwef., eira trwm. Gwanwyn oer, eira trwm eto, 1-16 Mawrth. Haf cawodog, tymheredd arferol - Gorff sych a chynnes iawn, 23 Gorff. poeth (33C yn Suffolk). Awst: cynnes iawn a sych. Hydref claear iawn a sych. Storm farwol ar y 16 Rhagfyr wedi ei ganoli ar ogledd Lloegr

EE: 1-2 Chwef: rhewllyd Sul 2ail: storm fawr o wint ac eira. 23-27 Chwef: oerllid, (25) oerllid a chawodog oen yn trigo y cyntaf eleni. 10-15 Mawrth: oerllyd, cawodog gyda pheth eira ond yn ymddangos fod Tywyn wedi osgoi i raddau mawr y sefyllfa mewndirol mwy difrifol. Ni chafwyd unrhyw gofnodion gan EE y flwyddyn hon rhwng Ebrill a Thachwedd. diwrnod clos gwlawio ar 26 Rhagfyr a stormllyd ar y 30 Rhag. ond fel arall tywydd digon cyffredin. Ar y 16 Rhagfyr, (y storm farwol) cofnododd EE ddiwrnod sych.

  • 1874

Kington 2010: Ionawr tyner a sych, Gwanwyn cynnar, tyner a sych, Ymchwydd llanw. Mawrth. 1-2 Mawrth: eira trwm, ffyrdd wedi ei rhwystro.24-25 Mawrth Eira trwm. Haf sych, Gorff -Awst cynnes iawn a sych, 20 Gorffennaf 33C yn Suffolk gyda marwolaethau oherwydd y gwres. Hydref cynnes a gwlyb, 20-24 Hydref: stormus. 11 Tachwedd eira trwm. 29 Tach- 11 Rhagfyr stormllyd.

EE: 1-2 Mawrth mwyn, 9-13 Mawrth: oerllyd ac eira, dim eira 24-25 Mawrth. Roedd y flwyddyn hon yn un o ddau y cofnododd EE iddo gychwyn cywain y gwair ym mis Mehefin (1878 oedd y llall). Roedd 20 Gorffennaf yn "ddiwrnod ffeind iawn" ganddo. Cofnodd 19-21 Hydref fel cyfnod stormus. Rhagfyr oer iawn gydag ambell gyfnod o eira trwm.

  • 1875

Kington 2010: Blwyddyn "cyfandirol" dwyreiniol; llen o lwch yn sgil ffrwydriad llosgfynydd yng Ngwlad yr Ia gyda thes i'w weld yn uchel ym mis Ebrill. 21 Ionawr, eira trwm a lluwchfeydd; barug mynych. Gwanwyn sych a thyner. Haf gwlyb, Gorffennaf gwlyb ond 7 Awst i 20 Medi yn sych a chynnes. Storm difrifol 26 Medi gan achosi llongddrylliadau ar yr afon Ferswy (Lerpwl). Hydref a Thachwedd: gwlyb iawn, llifogydd, ac ar ôl sbelen seiclonig, storm difrifol arall ar y 14 Tachwedd. Llifogydd yn parhau. Barrug ac eira ym mis Rhagfyr tan y 18ed.

EE: Ni chyrhaeddodd yr eira mawr mor belled a Thywyn ar y 21 Ionawr; cofnododd EE ddyddiau "ffeind". Cofnododd "diwrnod Stormllyd" yn Nhywyn ddydd Sul 26 Medi ac ar y14 Tachwedd: "Sul diwrnod stormllyd gwlawog trwy y dydd".  Gorffennaf: 9 diwrnod "ffeind" a 7 yn cynnwys y gair "bwrw" neu "gwlaw". Awst i Medi: 21 diwrnod "gwlaw" neu "bwrw" o'i gymharu a 9 diwrnod "sych" neu "cynnas" (yn groes i'r duedd Brydeinig. Hydref gwlyb gwyntog a "bidir" ar y cyfan fel yr oedd mis Tachwedd tan y 18ed pan gafwyd cyfnod o "ffeind" ac oeraidd.a barhaodd tan 18 Rhagfyr pan ddaeth glaw a gwynt.

  • 1876

Kington 2010: 21 Ionawr, storm eira (damwain tren yn lladd 14 Peterborough); eira trwm 24-25 Chwefror; tyner am weddill Chwefror. Gwanwyn oer gwlyb - 8-12, 17-22 Mawrth a 10-14 Ebrill: eira trwm. Mai oer a sych. Haf cynnes sych, marwolaethau oherwydd trawiadau gwres, 20 Mehefin i 21 Awst, 14 Awst 32C; 31 Awst hyrddwyntoedd, oedi wrth groesi'r Sianel. Hydref cynnes gwlyb - Medi gwlyb iawn; Hydref cynnes iawn; 14 Hydref corwynt, dinistrwyd eiddo yn Nantwich, Caer; Tachwedd a gweddill y gaeaf yn dyner a gwylyb.

EE: 12-13 Ebrill: 'Mer, diwrnod oer ac ambell i gawod o eira; Iau, diwrnod hull oer cawodidd trymion eira Mrs Orrell yn mind adra'. 14 Awst: 'Llun, diwrnod cynnas dechra cario ceirch y cae canol Rhwch at y Baedd. 31 Awst: Iau diwrnod hyll a gwlawog iawn dyrni ceirch a gwneid rhaffa'. 14 Hydref: 'Sad diwrnod lled hull gwlawio chydig y bore teg prydnawn tynni llwyth'. 22 Rhagfyr: 'Gwe diwrnod stormllyd cawodidd o genllisg cau rhyngom ar Esgian'

  • 1877

Kington 2010: Blwyddyn gwlypaf mewn cyfres o naw blwyddyn gwlyb yn olynol, 1875-1883. Storm difrifol 1 Ionawr. Ionawr yn stormus, tyner, gyda llifogydd gyda difrod mawr ar y 6ed yn ne Lloegr. 30 Ionawr: storm nodedig eto o'r gogledd orllewin. 18 Chwefror: diwedd cyfnod mwyn a gwlyb estynedig. Barrug 28 Chwefror, gwanwyn oer a stormus trwy fisoedd Mawrth ac Ebrill. Haf gwlyb, tymheredd cyfartalog arferol - Mehefin sych a chynnes iawn. Gorffennaf ac Awst yn gawodog gyda therfysg. Hydref oer a gwlyb gyda storm difrifol 14-15ed. Llawer o ddifrod. Tachwedd yn wlyb ar y cyfan gyda storm difrifol 24-25 Tachwedd. Llen folcanig yn cyrraedd yn deillio o amryfal ffrwydriadau gan gynnwys Cotopaxi (Ecwador). Gaeaf 1877-8, mwyn.

EE: 1 Ionawr: 'Llun dechra y flwyddin diwrnod gwlib trwy y dydd y bolas yn bir sal..'. 6 Ionawr: 'Sad diwrnod stormllyd gwlawog iawn Rowland yn mofin yr Engan [injan ddyrnu?] yn Pantyneua[dd]'. 30 Ionawr: 'Maw diwrnod stormllyd iawn a chawodog nina yn cae yn llain y faenol teil mawn tros y gro'. Chwefror: 'gwlaw' ar 8 o ddyddiau hyd yr 18ed (10 hyd 25ain), a 5 o ddydiau 'oer' yn dechrau ar y 17ain hyd ddiwedd y mis; 28 Chwefror 'Mer diwrnod oer iawn eira gwasted Rowland yn cario swnd i Rees Daniel.' Mehefin yn 'ffeind iawn' ar y cyfan ond gwyntog; Mehefin 19eg 'Maw diwrnod cynnas iawn bwriodd wlaw trwm iawn y bore y ddau Rowland yn co.... [codi?] ffos'. Ni chofnodwyd unrhyw derfysg gan EE yng Ngorffennaf nac Awst. Cofnododd ddiwrnod 'stormllyd' Sul y 14eg Hydref ac ar y diwrnod canlynol 'Llun diwrnod stormllyd llyfni cae canol a llosgi y baw a mind a thatws Luc a Evan yr [?efala]'. Tywydd digon cyffredin a gofnododd 24-25 Tachwedd.

  • 1878

Kington 2010: Gaeaf tyner iawn (1877-8) a gwanwyn tyner a gwlyb. 24 Mawrth: storm hegr iawr (newidiodd ddiwrnod cynnes braf i amodau gaeafol iawn gan suddo llong yr Eurydice gan ladd pawb ar ei bwrdd). Mai: gwlyb a thyner, llifogydd difrifol (7-8 Mai). Haf cynnes a gwlyb - 21 Mehefin i 22 Gorffennaf; sbelen gynnes sych, terfysg, cenllysg, llifogydd ar 16, 23 a 30 Mehefin. Hydref (tymor) claear a gwlyb - Hydref: cynnes; Tachwedd: gwlyb iawn, 12ed storm gogleddol difrifol, eira gogledd Lloegr, 15ed. Rhagfyr (1878) - Ionawr 1879 wythnosau o oerfel tan y rhewbwynt, eira 7-8 Rhagfyr, eira gogledd-ddwyrain Lloegr, 12-14 Rhagfyr eira Dyfnaint.

EE: 24 Mawrth: 'diwrnod oer ac eira bachgen ieiangc yn Pregethi ....', 7 Mai: 'Maw diwrnod sych trwy y dydd Rowland yn troi talrynia a throi yn Penllyn Prydnawn'; 8 Mai: 'Mer diwrnod gwlawog ffeind y bore a thrwy y dydd dim yn gali gwneid trwy y dydd'. Roedd 16, 23, a 30 Mehefin yn ddyddiau 'ffeind' neu 'ffeind iawn' i EE. 12 Tachwedd: 'Maw diwrnod ffeind iawn ond ei bod yn wyn o eira Rowland bach yn y felin yn mofin blawd' (y diwrnod hwn yn unig y soniodd am eira). 7-8 Rhagfyr: 'Sad diwrnod distaw ond bwriodd rai cawodidd o eira Rowland yn troi yn y morfa'(7) (eira ar y 10ed hefyd). Rhagfyr 20-27 'cawodidd eira' weithiau rhai 'trwm', 27ain, 'Gwe diwrnod tawel ffeind yn meirioli yr eira yn dda iawn bwrw gwlaw at y nos'.

  • 1879

Kington 2010: Blwyddyn heb haf - blwyddyn oer a gwlyb, un o'r oeraf ar record, efallai yn ddigon oer i gychwyn rhewlif yn yr Alban. Gaeaf oer gwlyb. 1-2 Ionawr: eira trwm; 12 Ionawr-7 Chwefror sbelen oer iawn. Gwanwyn hwyr ac oer - 12-13 Mawrth, 11-12 Ebrill: eira trwm. Mai: oer, 27 Mai: glaw taranllyd, sefyllfa gogleddol. Haf claer gwlyb, un o'r hafau oeraf a gwlypaf a gofnodwyd (llen llwch folcanig damcaniaethol). Mehefin gwlyb iawn, un o'r gwlypaf a gofnodwyd. 21 Gorffennaf: llifogydd difrifol; Awst, stormus (storm difrifol ar y 3ydd., sefyllfa ddwyreiniol gyda thywydd eithafol iawn yn nwyrain Lloegr). Hydref (tymor) claear iawn a sych, dechrau sbelen sych ar y cyfan tan ddiwedd y flwyddyn; 20-21 Tachwedd: eira mawr (8" de orllewin Lloegr). Rhagfyr oer i ddechrau, yna tyneru, 2, 4 a 7ed Rhagfyr barrug trwm; 28 Rhag storm difrifol, trychineb Pont y Tay yn yr Alban, 75 o bobl yn boddi.

EE: 2 Ionawr, 'Iau diwrnod rhew caled dyrni chydig o geirch Richard Esgian arforedi[?] y mydyn dal pedar o lygod ffen[?]', cyfnod oer Tywyn yn fyrrach na'r uchod, 16 Ionawr - 4 Chwefror gyda glaw yn dilyn. Yr unig eira ym mis Mawrth ac Ebrill oedd ar y 25 Mawrth a 13 Ebrill ond yn "oer" o'r 10 Ebrill i'r 22 ain. 27 Mai: 'diwrnod ffeind ond eu bod yn oer plant yn hel cerig'. 16 Gorffennaf, 'dechra tori gwair cae eithin' ac yn dechrau 'cario gwair' ar y 27 Gorffennaf - amseriad arferol i'r cynhaeaf gwair (21 Gorffennaf: 'Llun diwrnod stormllyd gwlawog braidd trwy y dydd'). 3 Awst: 'Sul diwrnod hyll iawn'. 'Oerodd dipin prydnawn [19 Tachwedd]' a 'Sad diwrnod gwlawio eira y bore [22 Tachwedd]' gan barhau yn oer wedyn ar brydiau tan ddiwedd wythnos gyntaf Rhagfyr pan feiriolodd, 8 Rhagfyr, 'Llun diwrnod oer iawn ond eu bod yn oer anghyffredin Rowland yn dyrni ffa'

  • 1880

Kington 2010: Gaeaf caled iawn ar draws Ewrop, eira mawr ym Mharis a'r Zuider Zee wedi rhewi. Ionawr yn un o'r sychaf ar gofnod. Y gwanwyn cynnar yn sych, a tymheredd yn gyfartalog. Mawrth mwyn. 26 Mai: 31C yn Llundain. Haf gwlyb, tymheredd arferol. Hydref (tymor) claear - 11 Medi: diwedd sbelen cynnes yn nwyrain Lloegr. Hydref: claear a gwlyb iawn. 19-20 Hydref: eira cynnar nodedig, 20–30 cm yn ne ddwyrain Lloegr. Tachwedd mwyn, gwlyb ar adegau. Gaeaf oer gwlyb.

EE: Dau ddiwrnod o 'gwlaw' yn unig y cofnododd ym mis Ionawr, ar y 4 a'r 16eg. 4 diwrnod 'oer' neu 'oerllyd' a gofnododd ym mis Mawrth. 26 Mai: 'Mer diwrnod ffeind iawn gwlawio braudd trwy y dydd heb wlawio yn drwm codi ffos William Smith'. 19-20 Hydref yn 'ffeind'. 2 Tachwedd yr unig ddiwrnod 'oer' yn y mis, ond 10 niwrnod o '(g)wlaw'.

  • 1881

Kington 2010: Oer iawn hyd 28 Ionawr. 18-19 Ionawr: The Great Victorian Blizzard. 28 Ionawr: diwedd y cyfod oer; 7 Chwefror, eira trwm yng ngogledd ddwyrain Lloegr. Gwanwyn hwyr - 4-6 Mawrth eira trwm yn yr Alban. Haf cyfnewidiol - 9 Mehefin: barrug trwm. Gorffennaf: cynnes iawn, achosi marwolaethau. Awst cynnar: y cyfnod cynnes yn parhau; 9 Awst, dechrau sbelen claear, glawog hyd Medi cynnar. Tymheredd hydref yn normal - Hydref claear. 13-15 Hydref: storm dinistriol gorllewinol gogledd Lloegr a'r Alban (llongddrylliadau, coed i lawr, marwolaethau). Tachwedd: cynnes iawn a sych, 26-27 Tachwedd; storm hegr o'r gorllewin. Rhagfyr: hyrddwyntoedd gorllewinol 17-20ed.

EE: 18 Ion: 'Maw gwintog iawn lliwchio yr eira yn arw'; Eira 12-23 Ionawr, 28 Ionawr 'Gwe diwrnod ffeind meiriol bwrw chydig o wlaw Rowland a 8 Pwn o wenith i Felin', 'stormllyd' ac ansefydlog wedyn. Eira Chwefror 26 - Mawrth 2. 9 Mehefin 'diwrnod feind chwni haidd yn cae newydd ar ddau gyfar' (Gorffennaf, 9 diwrnod o '-wlaw-' 0 '-oer-', 1 'cynnas', 0 'poeth'; y gwres mawr heb gyrraedd Tywyn). Awst yn gyfnewidiol, ansefydlog gyda chawodydd ac ambell ddiwrnod stormus. 13 Hydref: 'diwrnod glawog braidd trwy'r dydd' (dim cofnod arall tan y 19 Hydref). Tachwedd: cyfnewidiol, 'cawodog', 'ffeind', 'stormllyd' ar adegau, y 26-27 Tachwedd yn 'diwrnod ffeind y bore cawodog y prydnawn' a 'diwrnod hyll cawodog' yn eu trefn.Rhagfyr 14-20: 'stormllyd'

  • 1882

Kington 2010: Blwyddyn gwlyb seiclonig. Gaeaf mwyn. Ionawr tyner a sych; nodedig am sefyllfaoedd antiseiclonig, recordiwyd 1047mb ar 18 Ionawr. 14 Chwefror: diwedd y cyfnod mwyn a sych; glaw ac eira 15 Chwefror. Gwanwyn yn gynnar, tyner gwlyb - dechrau Mawrth gwlyb a gwyntog; 7-20 Mawrth, cyfnod cynnes, sych; 22-23 Mawrth, oer, stormydd. 29 Ebrill, storm difrifol o'r de orllewin, dail gwanwyn wedi eu niweidio. Haf claear, gwlyb - 26 Gorffennaf i 21 Awst: cyfnod cynnes sych iawn; 22-23 Awst, storm difrifol gorllewinol. Tymor hydref claear a gwlyb - mis Medi claear; 12 Medi, glaw trwm. 24 Hydref, gwyntoedd cryf o'r gogledd orllewin (Cymru), eira trwm (8" canolbarth Lloegr. 28 Hydref: storm difrifol, Black Saturday, sefyllfa gogledd-ddwyreiniol, gwasgedd isel (992mb) dros Ewrop, colli bywydau Môr y Gogledd. Tachwedd: tyner ar y cyfan; 15 Tachwedd: eira trwm yng nghanolbarth Lloegr. Dechrau Rhagfyr, barrug a niwl; 4-8 Rhagfyr, storm eira trwm, "The Border Blizzard"

EE: 15 Chwefror: 'Mer diwrnod ffeind iawn diwedd troi y cae canol Rowland yn mofin haner pwn o sh....'. Yr 11-19 Mawrth oedd y cyfnod cynnes a sych yn Nhywyn. 22-23 Mawrth yn ddi-nod ganddo 22 Mawrth: 'ffeind troi yn cae newydd yr ail waeth at datws' ond y diwrnod cynt (21) yn 'diwrnod hyll stormllyd iawn cawodidd o genllisg ag eira'. 29 Ebrill: 'diwrnod gwintog iawn a gwlawog anghyffredin trwy y dydd'. 23 Awst: 'diwrnod gwlawog braidd trwy y dydd dechrau tori ceirch au godi' ond diwrnod 'stormllyd gwlawog braidd trwy y dydd tori chydig o geirch a thynu to' ar y 25 Awst. 12 Medi 'diwrnod yn bwrw rhai cawodidd y bore diwedd cario haidd pwn o`r felin yr Hwch oddi wrth y Baedd'. 24 Hydref: 'diwrnod gwlawog bidir trwy y dydd tynni to a glanhau yr ydlan' ynghanol cyfnod gwlyb; 28 Hydref 'diwrnod sych ond bwriodd beth gwlaw tynny tatws' (yn amlwg y gwasgedd isel dros Ewrop heb effeithio ar Tywyn. 15 Tachwedd: 'diwrnod ffeind y bore tynni tatws gwlaw trwm prydnawn Rowlan yn Penllyn yn dyrni'; 6-7 Rhagfyr (6) 'peth eira', (7) 'diwrnod oerllyd iawn a thipin o eira yn o drwm mewn rhai manau'.

  • 1883

Kington 2010: Blwyddyn ffrwydiad llosgfynydd Krakatau. Gwanwyn oer iawn a sych - Mawrth: un o'r misoedd Mawrth oeraf a gofnodwyd (dim ond 1785, 1674 a 1667 yn oerach); 6 Mawrth, a 10-11 Mawrth stormydd difrifol o'r gogledd (ymchwydd llanw Môr y Gogledd). 6-18 Mawrth, eira mawr. 11-13 Mai glaw trwm, llifogydd Hafren &c. Haf claear iawn, Hydref (tymor) gwlyb, tymheredd normal, effeithiau gweledol y llen o lwch. 1-2 Medi, storm difrifol (hen gorwynt trofannol), un o'r teidiau isaf erioed ar y Tafwys (2); effeithiau machlud trawiadol; 26 Medi, gwyntoedd hyrddiol seiclonog. 17-18 Hydref: sefyllfa gorllewinol, hyrddwyntoedd difrifol. 12 Rhagfyr: sefyllfa gogledd orllewinol, hyrddwyntoedd graddfa 10, dinistr i adeiladau (simneau i lawr gogledd Llegr, Cadeirlan Lincoln wedi ei niweidio, 5 person yn marw

EE (364/365): 6 Mawrth: 'diwrnod ffeind ond eu [sic] bod yn oer a gwintog', 'oerllyd anghyffredin', eira ar brydiau, tan ddiwedd y mis. Mai: ni welodd EE y glaw trwm a gafwyd mewn mannau eraill. 1-2 Medi: 'Sad [1] diwrnod sych y bore dechra cario ceirch gwlaw trwm at y prydnawn', 'Sul [2] diwrnod cawodog John Owen Coris yn pregethi..'. 26 Medi, 'Mer diwrnod stormllyd anghyffredin Rowland yn dyrni crei[?] haidd'. 17-18 Hydref, y storm gorllewinol wedi osgoi Tywyn: (17) 'Mer diwrnod cawodog carthi lle y lloi ar hen wanws', (18) 'Iau diwrnod sych oerllyd gorffen rhoi rhaffa o gwmpas yr yd a thyni peth tattws'. 12 Rhagfyr: 'Mer diwrnod gwintog oer trwy y dydd Rowland yn dyrni ceirch'

  • 1884

Kington 2010: 19-27 Ionawr, un o'r cyfnodau mwyaf stormus a gafwyd. 26 Ionawr, storm difrifol tua'r gogledd. Gwanwynsych cynnar, tymeredd normal. Haf sych a chynnes; 11 Awst cynnes iawn, 35C yn Norwich. Tymor hydref sych, 30 Tachwedd eira trwm.

O'r flwyddyn hon ymlaen dechreuodd cofnodion EE fod yn fwy achlysurol. Lle bo gwybodaeth ar gael o Fae Ceredigion, ychwanegir tystiolaeth o ffynonellau eraill:

EE (58/365, dim ar ôl canol Mai): 22 a 23 Ionawr yn unig yn lawog ond ddim yn stormus, (22) 'Maw diwrnod bidir a gwlawio yn drwm iawn at y prydnawn', (23) 'Mer diwrnod hyll a gwlawog anghyffredin trwy y dydd ar nos'. 29 Ionawr: dim cofnod EE ond ar y Sarn Badrig ychydig i'r gogledd o Dywyd collwyd yr EULOMENE Stranded and lost whilst carrying a cargo of linseed, wheat and one stowaway in wind conditions SW force 6[19]

  • 1885

Kington 2010: gwanwyn oer iawn, 21-22 Mawrth: eira mawr. Haf claear a sych (effeithiau llen llwch folcanig yn parhau). Tymor hydref claear a gwlyb, 25 Medi, sefyllfa ogleddol, eira trwm ym mynyddoedd yr Alban a Chymru; cofnodwyd plu eira yn Llundain.

EE 135/365 Awst-Rhagfyr: '[2 Ionawr] up 830, cold east frost wind freezing everything' (Llanystumdwy)[20]. '[7 Chwefror]damp and cold, a vessel shipwrecked on bar - 4 crew drowned - cric lifeboat saved 7[20]. 21 Chwefror cold showery very stormy wind blowing fiercely all through..[20]. 7 Mai: Hard frost in Llanystumdwy..similar in Rhoslan..cold fine great part of the day (Dyddiadur Lloyd George, Amg. L.G., Llanystumdwy). 25 Medi, cofnododd EE 'diwrnod cawodog'.

  • 1886

Kington 2010: Gaeaf oer iawn a sych ond eira achlysurol. 5-6 Ionawr eira trwm, cychwyn cyfnod oer tan 18 Mawrth (13 Ionawr, stormydd gogledd orllewinol, terfysg; 19 Ionawr, eira trwm Cymru, 25-26 Ionawr, eira trwm, gorllwin Prydain yn bennaf, 28 Chwefror - 2 Mawrth eira trwm). Gwanwyn oer gwlyb. 30 Mawrth, storm difrifol, difrod gogledd Lloegr. 9-10 Ebrill, eira mawr. Mai-dechrau Mehefin: tarth trwchus (llen llwch). 11-12 Mai, eira hwyr nodedig a llifogydd.

EE 195/365; Ionawr-Gorffennaf: 6 Ionawr 'Mer diwrnod oerllyd anghyffredin' (13 Ionawr, Mer diwrnod stormllyd anghyffredin o wynt a gwlaw symid yr engan I Glanymor'; 19 Ionawr 'Maw diwrnod oer ac eira nina yn Begeila a Phorthi Rowland yn pedoli'; 23 Ionawr: 'Sad diwrnod oer bwrw eira y Bore John yn tori gwellt yn y Faenol'; 26 Ionawr, 'Maw diwrnod bidir yn y bore bwrw eirwlaw gwll prydnawn'; 1 Mawrth, 'Llun diwrnod hyll anghyffredin ac eira trwm iawn y tryma a welsom eleni, a'r tywydd 'hyll' yn cydfynd â'r uchod). 30 Mawrth, 'Maw diwrnod stormllyd anghyffredin bwrw yn drwm Rowland yn troi yn Esgian'. 9-10 Ebrill yn dywydd di-fai. 12 Mai 'Mer diwrnod gwlawog a stormllyd anghyffredin iawn y bore' (dim eira yn y cyfnod). Dim son am effeithiau llwch.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Tynnwyd yn drwm ar waith ymchwil yr hanesydd Rwth Tomos[21] wrth lunio'r erthygl hon. Gellir gweld cofnodion unigol y dyddiadur (4023 ohonynt) yn y Tywyddiadur, adran o wefan Llên Natur [2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Cofrestri Eglwys Cadfan, Archifdy Meirionnydd
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Cyfrifiad 1871
  3. 3.0 3.1 3.2 Cyfrifiad 1881
  4. 4.00 4.01 4.02 4.03 4.04 4.05 4.06 4.07 4.08 4.09 4.10 4.11 Dyddiadur Edward Edwards, Amaethwr, Tywyn 1873-1886, Archifdy Meirionydd, Z/M/3192/1
  5. 5.0 5.1 Rhestrau Ddegwm, Tithe Lists 1836-1846, Archifdy Meirionnydd
  6. Cofrestr Aelodau Bethel, Tywyn 1856-1863 Archifdy Meirionnydd
  7. Anad, 1886, The history of Ystumaener, Copy of a paper read at a meeting of the Towyn Debating Society, Mawrth 1886., Archifdy Meirionydd Z/M/4475
  8. Drummond, I. (2015) Rail along the Fathew Holne
  9. [https://en.wicipedia.org/last_glacial_period]
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 Cyfrifiad 1851
  11. Cyfrifiad 1861
  12. Cofrestri Anghydffurfiol 1813-1839 Archifdy Meirionydd
  13. Cyfrifiad 1891
  14. Map O.S. 1901
  15. 15.0 15.1 Jones, Meredith, 1929, Ychydig o Hanes Eglwys Bethel, Towyn. cyh. J. Wynne Williams
  16. Owain R, 2017 mewn e-bost
  17. Davies a Rees,(gol) 1960, Welsh Rural Communities, University of Wales
  18. 18.0 18.1 Kington, J. (2010) Climate and Weather Collins NN
  19. Shipwreck Index of the British Isles (Lloyds Register of Shipping)
  20. 20.0 20.1 20.2 Dyddiadur Lloyd George
  21. Tomos, R. (2016), Dyddiaduron Faenol Isaf (papur bro ardal Dysynni Dail Dysynni)