Dwyrain Swydd Renfrew (etholaeth seneddol y DU)

Oddi ar Wicipedia
Dwyrain Swydd Renfrew
Etholaeth Sirol
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Dwyrain Swydd Renfrew yn Yr Alban.
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd1885, 2005
Aelod SeneddolKirsten Oswald SNP
Nifer yr aelodau1
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Mae Dwyrain Swydd Renfrew yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1885 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ac fe atgyfodwyd yr enw yn , 2005. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Dwyrain Swydd Renfrew. Mae rhan fwya'r etholaeth mewn ardal dosbarth canol eitha llewyrchus, ac mae'n cynnwys Barrhead, Clarkston, Dwyrain Swydd Renfrewshire, Giffnock a Newton Mearns.

Hyd at 2005 gelwyd yr etholaeth yn 'Eastwood'; cyn 1997 hon oedd sedd saffa'r Blaid Geidwadol yn yr Alban. Yn 1997 cafwyd tanchwa o ran y peidleisio, pan welwyd Jim Murphy'n cipio'r sedd a'i dal hyd at 2015. Cynrychiolwyd yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Kirsten Oswald, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1]

Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, cipiwyd y sedd gan Paul Masterton, Ceidwadwyr yr Alban. Ail-gipiwyd Oswald ei sedd dros yr SNP yn 2019.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|