Dwayne Peel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Chwaraewr rygbi'r undeb i dîm Sale Sharks a Chymru yw Dwayne John Peel (ganed 31 Awst 1981). Mae'n chwarae fel mewnwr.

Ganed ef yng Nghaerfyrddin ac astudiodd ym Mhrifysgol Abertawe. Ymunodd a Chlwb Rygbi Llanelli, gan symud i Scarlets Llanelli pan ffurfiwyd y timau rhanbarthol yn 2003. Ar 15 Ionawr 2008, cyhoeddwyd y byddai'n ymuno a Sale Sharks ar ddiwedd tymor 2007–2008.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn Japan yn 2001, pan oedd yn dal yn fyfyriwr. Roedd yn rhan allweddol o dîm Cymru pan enillwyd y Gamp Lawn yn 2005. Dewiswyd ef ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn 2005; ef oedd y chwaraewr ieuengaf yn y garfan. Ar 9 Medi 2007, Peel oedd capten Cymru yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd 2007, pan gurwyd Canada 42-17.

Roedd yn rhan o'r garfan a gyflawnodd y Gamp Lawn ym mhencampwriaeth 2008, ond erbyn hyn yr oedd yn wynebu cystadleuaeth am safle mewnwr oddi wrth Mike Phillips. Dim ond un gêm a ddechreuodd Peel yn y bencampwriaeth yma, yn erbyn yr Eidal. Yn Ionawr 2009, cyhoeddwyd nad oedd wedi ei ddewis i fod yn aelod o sgwad Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2009, gyda Mike Phillips a Gareth Cooper yn cael eu dewis fel mewnwyr.