Dunnes Stores

Oddi ar Wicipedia
Dunnes Stores
Math
busnes
Diwydiantmanwerthu
Sefydlwyd1944
SefydlyddBen Dunne
PencadlysDulyn
Gwefanhttps://www.dunnesstores.com/ Edit this on Wikidata

Cadwyn manwerthu o Iwerddon yw Dunnes Stores, a elwir hefyd yn Dunnes. Mae'r gadwyn yn bennaf yn gwerthu bwyd, dillad a nwyddau i'r cartref.

Yn ogystal â de Iwerddon, mae gan y cwmni hefyd siopau yng ngogledd Iwerddon, Lloegr, yr Alban a Sbaen.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ar 31 Mawrth, 1944, defnyddiodd Ben Dunne ei gynilion i agor y Dunnes Stores cyntaf erioed ar Patrick Street yn Cork.[1]

Streic Nwyddau De Affrica[golygu | golygu cod]

Yn ystod cyfnod apartheid, bu aeth gweithwyr cangen Henry Street, Dulyn, a oedd yn aelodau o'r undeb IDATU (Mantate bellach) ar streic a phicedu'r siop mewn protest yn erbyn y ffaith bod y cwmni'n gwerthu cynnyrch o Dde Affrica. Arhosodd 11 o ferched ar streic am ddwy flynedd a naw mis. Daeth y streic i ben ym mis Ebrill 1987, pan osododd Iwerddon waharddiad ar fewnforio o Dde Affrica - y wlad gyntaf i wneud hynny.[2]

Sgandal cig ceffyl 2013[golygu | golygu cod]

Roedd y cwmni ymysg y rhai a effeithwyd gan sgandal cig ceffyl 2013.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Our Story Gwefan y cwmni
  2. Kilfoil, Bethan (Chwefror 2014). Safiad merched Dunnes Stores, Rhifyn 613. Barn