Drudwy
Oddi ar Wicipedia
| Drudwy | |
|---|---|
![]() |
|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Sturnidae |
| Genws: | Sturnus |
| Rhywogaeth: | S. vulgaris |
| Enw deuenwol | |
| Sturnus vulgaris (Linnaeus, 1758) |
|
Aderyn yn perthyn i deulu'r Sturnidae yw'r Drudwy, hefyd Drudwen neu Aderyn yr Eira (Sturnus vulgaris). Mae'r Drudwy yn gyffredin yn Ewrop a gorllewin Asia, ac mae hefyd wedi ei gyflwyno i lawer o wledydd a chyfandiroedd eraill, er enghraifft Gogledd America, Awstralia a De Affrica. Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de neu tua'r gorllewon.
Is-rywogaethau [golygu]
- Sturnus vulgaris vulgaris Linnaeus, 1758. Y rhan fwyaf o Ewrop
- Sturnus vulgaris faroensis Feilden, 1872. Ynysoedd Faroe
- Sturnus vulgaris zetlandicus Hartert, 1918. Ynysoedd Shetland.
- Sturnus vulgaris granti Hartert, 1903. Azores.
- Sturnus vulgaris tauricus Buturlin, 1904. O'r Crimea ac i'r dwyrain o Afon Dnieper hyd at y Môr Du a gorllewin Asia Leiaf.
- Sturnus vulgaris purpurascens Gould, 1868. Dwyrain Twrci hyd Tbilisi a Llyn Sevan.
- Sturnus vulgaris caucasicus Lorenz, 1887. Aber Afon Volga hyd at ddwyrain y Cawcasws.
- Sturnus vulgaris porphyronotus Sharpe, 1888. Gorllewin Canolbarth Asia.
- Sturnus vulgaris nobilior Hume, 1879. Afghanistan, de-ddwyrain Turkmenistan a rhannau cyfagos o Uzbekistan hyd ddwyrain Iran.
- Sturnus vulgaris humii Brooks, 1876. Kashmir hyd Nepal.
- Sturnus vulgaris minor Hume, 1873. Pacistan.
Yng Nghymru, mae nifer sylweddol yn nythu, er fod y niferoedd wedi gostwng yn y blynyddoedd dowethaf. Ceir niferoedd llawer mwy yn y gaeaf, gyda heidiau o filoedd lawer.
Mae'r Drudwy yn ymddangos yn chwedl Branwen ferch Llŷr, lle mae Branwen, sy'n cael ei cham-drin yn Iwerddon, yn dofi Drudwy a'i yrru gyda neges i'w brawd Bendigeidfran.
