Dafydd Huws (gwleidydd a seiciatrydd)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Dr Dafydd Huws)
Neidio i: llywio, chwilio

Gwleidydd a seiciatrydd o Gymro oedd y Dr Dafydd John Lewys Huws (29 Tachwedd 1935 – 3 Gorffennaf 2011).[1] Bu'n flaenllaw ym maes melinau gwynt Cymru hefyd.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu]

Cafodd Dafydd Jones ei eni yn Aberystwyth a'i fagu yn Llandre. Treuliodd ychydig o'i flynyddoedd cynnar yn Kenya, lle yr oedd ei dad yn gweithio fel daearegwr yn y diwydiant mwyngloddio, a sicrhaodd ei rieni yr oedd athro i ddysgu'r Gymraeg iddo. Mynychodd Ysgol Ramadeg Ardwyn ac astudiodd yn Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Aeth ati i dreulio'i holl oedolaeth yng Nghaerdydd.[1]

Gyrfa fel seiciatrydd[golygu]

Gweithiodd Dafydd Huws i'r Cyngor Ymchwil Meddygol am bum mlynedd cyn cymryd swydd seiciatrydd ymgynghorol yn Ysbyty'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd o 1970 hyd iddo ymddeol ym 1996. Roedd yn Gadeirydd adran seiciatrig Awdurdod Iechyd De Morgannwg ac yn aelod o Ymgyrch Feddygol Cymru yn erbyn Arfau Niwclear. Bu'n edmygydd o'r seiciatrydd Cymreig Ernest Jones.[1]

Gwleidyddiaeth[golygu]

Roedd Dafydd Huws yn genedlaetholwr Cymreig brwd ers ei ddyddiau ysgol,[1] ac roedd yn hoff o ddweud: "Mae bod yn Gymro neu'n Gymraes yn golygu perthyn, teimlo ein bod ni'n perthyn – beth bynnag yw ein hiaith, lliw neu grefydd."[1][2] Ym 1969 daeth yn gynghorydd cyntaf Plaid Cymru ar Gyngor Caerdydd, yn cynrychioli Ward Plasmawr.[3] Safodd Huws yn erbyn George Thomas am etholaeth Gorllewin Caerdydd yn etholiadau cyffredinol 1970, Chwefror 1974, ac Hydref 1974, a safodd am sedd Ceredigion ym 1979 ac eto yng Nghaerdydd ym 1983. Safodd am etholaeth De Cymru yn etholiad Senedd Ewrop ym 1984, gan ennill 13,201 o bleidleisiau (6.8 y cant o'r cyfanswm).[1] Roedd yn Gadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru yn yr 1980au. Derbynodd wobr gan y blaid a roddwyd i'w weddw Rhian yng nghynhadledd flynyddol y blaid ym mis Medi 2011.[1]

Ynni gwynt[golygu]

Cafodd Dafydd Huws ei ysbrydoli ym maes ynni gwynt gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth ac gan ymweliad â Denmarc.[2] Gyda'i wraig, Rhian, fe sefydlodd gwmni Ynni Amgen Cyf.[4] a bu'n gyfrifol am sefydlu un o ffermydd gwynt cyntaf yng Nghymru ar Fynydd Gorddu, ger Tal-y-bont, Ceredigion. Yn ôl Eryl Vaughan, Rheolwr Gyfarwyddwr Ynni Gwynt Cymru, "fe gyfrannodd yn aruthrol at ddatblygu ynni gwynt yng Nghymru" ac mae'r fferm wynt hon "yn waddol i'r genedl".[2]

Bywyd personol[golygu]

Priododd Rhian Jones ym 1976[1] a chafodd dau fab (Aled a Geraint) a thair merch (Gwenan, Elen a Carys).[2] Roedd Huws yn Gristion a addolodd mewn capeli Cymraeg trwy gydol ei fywyd.[1] Erbyn diwedd ei oes roedd yn byw yn y Ffwrnes Blwm ger Caerffili, a bu farw o ganser yn 75 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 (Saesneg) Stephens, Meic (14 Medi 2011). Dafydd Huws: Psychiatrist, Plaid Cymru stalwart and wind-farm pioneer. The Independent. Adalwyd ar 26 Mai 2013. Fersiwn ar storfa Google.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4  Y seiciatrydd Dafydd Huws wedi marw. BBC (3 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 26 Mai 2013.
  3.  Marw’r seiciatrydd Dr Dafydd Huws. Golwg360 (3 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 26 Mai 2013.
  4.  Hanes Fferm Wynt Mynydd Gorddu. Ynni Amgen Cyf.. Adalwyd ar 26 Mai 2013.