Douz
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn ne Tunisia yw Douz neu Dūz (Arabeg: دوز) a adnabyddir fel "porth y Sahara." Mae'n gorwedd o amgylch gwerddon 27 km i'r de o ddinas Kébili a thua 100 km i'r gorllewin o ddinas Gabes yn nhalaith Kébili.
Lleolir y ddinas ar ymyl anialwch y Grand Erg Oriental ger y Chott Jerid. Yn y gorffennol bu'n arosfa pwysig ar y llwybrau carafan ar draws y Sahara oedd yn cysylltu Tunisia â Gorllewin Affrica. Y prif ddiwydiant heddiw yw twristiaeth a thyfu dêts "diglat noor" yn y palmeraie (planhigfa palmwydd) sydd o gwmpas y werddon.