Double Indemnity (ffilm)
| Double Indemnity | |
|---|---|
Llun teitl |
|
| Cyfarwyddwr | Billy Wilder |
| Cynhyrchydd | Buddy DeSylva Joseph Sistrom |
| Sgript | Billy Wilder Raymond Chandler |
| Seiliwyd ar | Double Indemnity gan James M. Cain |
| Llafarydd | Fred MacMurray |
| Yn serennu | Fred MacMurray Barbara Stanwyck Edward G. Robinson |
| Cerddoriaeth gan | Miklós Rózsa |
| Cinematograffi | John F. Seitz |
| Golygydd | Doane Harrison |
| Dosbarthwr | Paramount Pictures (yn wreiddiol) Universal Studios (heddiw) |
| Rhyddhawyd dyddiadau) | 6 Medi 1944 |
| Hyd y ffilm (amser) | 107 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| Cyfalaf | $980,000[1] |
| Gwerthiant tocynnau | $5,000,000 |
Film noir Americanaidd o 1944 yw Double Indemnity a gyfarwyddwyd gan Billy Wilder a chynhyrchwyd gan Buddy DeSylva a Joseph Sistrom. Ysgrifennodd Wilder a Raymond Chandler y sgript yn seiliedig ar y nofel fer Double Indemnity gan James M. Cain.
Mae'r ffilm yn serennu Fred MacMurray fel dyn yswiriant, Barbara Stanwyck fel gwraig sydd am i'w gŵr farw, ac Edward G. Robinson fel aseswr ceisiadau. Mae'r term double indemnity, indemniad ddwbl yn Gymraeg, yn cyfeirio at gymal mewn polisi yswiriant bywyd sy'n dyblu gwerth y taliad os yw'r farwolaeth yn ddamweiniol.
Derbynodd glod gan feirniaid ffilm, a chafodd ei henwebu am saith o Wobrau'r Academi, er ni enillodd yr un. Ystyrir Double Indemnity yn glasur o sinema'r Unol Daleithiau, ac yn batrwm o film noir a osododd safonau i ffilmiau'r genre honno.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Sikov, Ed (1998). On Sunset Boulevard: The Life and Times of Billy Wilder. Efrog Newydd: Hyperion. ISBN 0-7868-6194-0. t. 211