Dorothy Edwards (nofelydd Cymreig)
Oddi ar Wicipedia
Nofelydd Cymreig oedd Dorothy Edwards (1903 – 6 Ionawr 1934), a ysgrifennai yn yr iaith Saesneg.
Roedd Edwards yn dod o Dyffryn Ogwr, addysgwyd yn Ysgol Howell's yn Llandaf a Phrifysgol Caerdydd. Bu'n weithredol yn y byd gwleidyddiaeth, dros achosion sosialaidd a chenedlaetholdeb Cymreig. Roedd hefyd yn gantores amatur galluog. Ar 6 Ionawr 1934, lladdodd ei hun gan daflu ei hun o flaen trên ger gorsaf reilffordd Caerffili. Gadawodd nodyn hunanladdiad yn datgan: "I am killing myself because I have never sincerely loved any human being all my life. I have accepted kindness and friendship and even love without gratitude, and given nothing in return".[1]
Gweithiau[golygu]
- Rhapsody (1927) (straeon byrion)
- Winter Sonata (1928)
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ The Daily Mirror, 10 Ionawr 1934, tud 5
Dolenni allanol[golygu]
- (Saesneg) Welsh Biography Online