Dona

Oddi ar Wicipedia
Dona
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmynach Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlanddona Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl1 Tachwedd Edit this on Wikidata
TadSelyf ap Cynan Edit this on Wikidata

Sant o Gymru oedd Dona (g. 580). Ceir Dwna fel amrywiad ar ei enw a'i enw llawn oedd Dona ap Selyf.[1] Mae ei ddydd gŵyl ar 1 Tachwedd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd Dona yn un o feibion Selyf ap Cynan Garwyn ('Selyf Sarffgadau'), mab Cynan Garwyn, o deulu brenhinol Powys. Ar ôl cyfnod fel mynach ym Mangor yn Arfon, aeth i fyw fel meudwy yng nghongl de-ddwyreiniol Môn.[1]

Eglwys a thraddodiadau[golygu | golygu cod]

Cysegrir Eglwys Llanddona ar Ynys Môn iddo. Dywedir fod yr eglwys wreiddiol yma yn dyddio o tua 610. Ail-adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1873. Yn yr eglwys mae cloch yn dyddio o 1647 a chwpan cymun arian yn dyddio o 1769, ond gyda chaead o 1574.[1]

Hefyd yn ardal Llanddona ceir carreg naturiol yn ardal Mynydd Crafgoed a elwir yn Gadair Dona. Ceir Craig Dona ger Tref-y-clawdd, Maesyfed, a dywedir yr arferai pobl fynd i yfed o'r ffynnon iachusol yno.[1]

Llefydd cysylltiedig[golygu | golygu cod]

Rhestr Wicidata:

# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Eglwys Sant Dona
53°18′18″N 4°08′27″W / 53.305121°N 4.140838°W / 53.305121; -4.140838 Llanddona Q7592976
2 Llanddona
53°17′49″N 4°07′59″W / 53.2969064583°N 4.13304435344°W / 53.2969064583; -4.13304435344 Ynys Môn Q3402690
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (2000).