Don Skene
| Manylion Personol | |
|---|---|
| Enw Llawn | Donald J. C. Skene |
| Dyddiad geni |
Chwefror 5, 1936 |
| Gwlad | |
| Gwybodaeth Tîm | |
| Disgyblaeth | Trac a Ffordd |
| Rôl | Reidiwr |
| Tîm(au) Amatur | |
| 1951– | Tigers Cycling Club |
| Prif gampau | |
| Golygwyd ddiwethaf ar: | |
| 23 Medi 2007 | |
Seiclwr rasio Cymreig oedd Donald "Don" J. C. Skene (ganwyd 5 Chwefror 1936, Caerdydd).[1] Cynyrchiolodd Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad sawl gwaith, y tro cyntaf ym 1954 yn y Ras Scratch 10 km, y Kilo a'r Ras Ffordd (100 km); eto ym 1958 yn y Ras Scratch 10 km, y Kilo a'r Sbrint; ac y tro olaf ym 1962 gan gystadlu unwith eto yn y Ras Scratch 10 km, y Kilo a'u Sbrint.[2] Reidiodd mewn rasus rhyngwladol dros Dîm Cenedlaethol yr R.A.F. a Phrydain Fawr yn Ne Affrica, Guiana yn Ne America ac ar y cyfandir.
Dechreuodd rasio yn 15 oed gan ymuno â'r Tigers Cycling Club, ac yn 16 oed yn 1952, agorodd siop feics fechan ar Allt Rhymni, Ffordd Casnewydd, Caerdydd. Rhedodd y busnes am 53 mlynedd cyn pasio'r rheolaeth ymlaen i'w ferch Liane a'i fab, Jon, yn 2005. Mae'r siop yn cefnogi tîm seiclo Team Skene. Mae Don wedi ymddeol i fyw yn Florida yn yr Unol Daleithiau.
Canlyniadau [golygu]
- 1954
- 3ydd Ras Scratch 10 milltir, Gemau'r Gymanwlad
- 1958
- 3ydd Ras Scratch 10 milltir, Gemau'r Gymanwlad