Don Shepherd
Oddi ar Wicipedia
Cyn-gricedwr fu'n chwarae i Glwb Criced Morgannwg yw Donald John Shepherd, a adwaenir fel Don Shepherd (ganed 12 Awst, 1927). Ef oedd y bowliwr mwyaf llwyddiannus yn hanes Morgannwg, gan gymeryd 2,216 o wicedi ar gyfartaledd o 22.32.
Ganed ef ym Mhort Einon, Penrhyn Gŵyr, a dechreuodd chwarae i dîm Morgannwg yn 1950, gan gymeryd 120 o wicedi y tymor hwnnw. Yn nhymor 1956, cymerodd 177 o wicedi. Roedd yn rhan o dîm Morgannwg pan enillasant bencampwriaeth y siroedd yn 1969. Ymddeolodd yn 1972.