Dog Day Afternoon
Poster theatraidd |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Sidney Lumet |
| Cynhyrchydd | Martin Bregman Martin Elfand |
| Ysgrifennwr | Frank Pierson |
| Serennu | Al Pacino John Cazale Charles Durning James Broderick Chris Sarandon |
| Cerddoriaeth | Elton John Uriah Heep |
| Sinematograffeg | Victor J. Kemper |
| Golygydd | Dede Allen |
| Dosbarthydd | Warner Bros. |
| Dyddiad rhyddhau | 21 Medi 1975 |
| Amser rhedeg | 125 munud 131 munud (Toriad y cyfarwyddwr) |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| Refeniw gros | $50,000,000 |
Ffilm ddrama o 1975 yw Dog Day Afternoon a gyfarwyddwyd gan Sidney Lumet, ysgrifennwyd gan Frank Pierson, a chynhyrchwyd gan Martin Bregman. Mae'r ffilm yn serennu Al Pacino, John Cazale, Charles Durning, Chris Sarandon, Penny Allen, James Broderick, a Carol Kane. Cyfeiria'r teitl at "ddyddiau cŵn yr haf".
Ysbrydolwyd y ffilm gan erthygl gan P.F. Kluge o'r enw "The Boys in the Bank",[1] sy'n adrodd stori debyg am ysbeiliad banc yn Brooklyn gan John Wojtowicz a Salvatore Naturile ar 22 Awst 1972. Cyhoeddwyd yr erthygl hon yng nghylchgrawn Life ym 1972.[2] Pan ryddhawyd ym Medi 1975 gan Warner Bros. Pictures (sydd yn awr yn rhan o Time Warner), derbynodd y ffilm adolygiadau ffafriol ar y cyfan, â nifer ohonynt yn trafod ei naws gwrth-sefydliadol. Enwebwyd Dog Day Afternoon am nifer o Wobrau'r Academi a gwobrau Golden Globe, ac enillodd un Wobr yr Academi.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) Rayburn, Nina. The Write Stuff: Magazine articles that make it to the Big Screen. New York Review of Magazines. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Ionawr 2006.
- ↑ "The Boys in the Bank" gan P.F. Kluge a Thomas Moore yn Life, 22 Medi 1972, Cyf. 73(12).