Doctor Zhivago

Oddi ar Wicipedia
Doctor Zhivago
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurBoris Pasternak Edit this on Wikidata
CyhoeddwrFeltrinelli, Pantheon Books Edit this on Wikidata
GwladYr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
IaithRwseg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1957 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1945 Edit this on Wikidata
Genreffuglen hanesyddol Edit this on Wikidata
Prif bwncChwyldro Hydref Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nofel gan Boris Pasternak yw Doctor Zhivago ( Rwseg: Доктор Живаго). Enwir y nofel ar ôl y prif gymeriad, Yuri Zhivago, sy'n feddyg ac yn fardd. Mae'n adrodd hanesion serch a pherthnasau, efo digwyddiadau chwyldro Rwsia yn amlwg iawn yn y cefndir.

Y nofel[golygu | golygu cod]

Er i rannau gael eu hysgrifennu yn y mil naw degau a'r dauddegau, ni chwblhawyd Doctor Zhivago tan 1956. Fe'i cynigiwyd i'w chyhoeddi yn y cylchgrawn Novyi mir, ond fe'i gwrthodwyd oherwydd trafferthion Pasternak â llywodraeth yr Undeb Sofietaidd. Ym 1957 fe lwyddodd y cyhoeddwr Giangiacomo Feltrinelli i gael y llawysgrif allan o Rwsia, a'i chyhoeddi yn y Rwseg gwreiddiol ym Milan. Ym 1958, cyhoeddwyd cyfieithiadau i'r Eidaleg a'r Saesneg, ac fe wobrwywyd Pasternak â Gwobr Llenyddiaeth Nobel. Cyhoeddwyd y nofel yn Rwsia o'r diwedd ym 1988, ar dudalennau yr union Novyi mir a'i gwrthododd flynyddoedd ynghynt.

Mae'r prif gymeriad, Zhivago, yn sensitif ac yn farddonol iawn; mae cyferbyniad milain rhwng ei egwyddorion a hunllefau'r Chwyldro. Un o themâu mawr y llyfr yw sut mae erchyllterau rhyfel a chulder gwleidyddol yn dinistrio'r hardd a'r egwyddorol mewn gwlad ac ym mywyd dyn.

Mae tirlun Siberia yn gefndir i lawer o'r nofel, tra bod darnau eraill yn digwydd yn ninas Moskva.

Fe greodd Roger Bolt addasiad ffilm o'r nofel ym 1965. Fe ymddangosodd fersiwn deledu yn 2002, efo Keira Knightley yn chwarae rhan Lara.