Diwylliant yr Eidal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hunanbortread gan Leonardo da Vinci.

O grud gwareiddiad hyd at yr 16eg ganrif bu'r Eidal yn rhan hanfodol o ddiwylliant Ewrop ar hyd y canrifoedd: dyma darddiad y gwareiddiad Etrwscaidd, Rhufain hynafol, yr Eglwys Gatholig, dyneiddiaeth a'r Dadeni Dysg. Oherwydd na unwyd yr Eidal fel un wladwriaeth hyd yn gymharol ddiweddar, bu amrywiaeth mawr mewn diwylliant.

Arlunio[golygu]

Yn y Canol Oesoedd a chyfnod y Dadeni, roedd arlunwyr yr Eidal yn enwog trwy Ewrop. Ymysg yr arlunwyr a cherflunwyr enwocaf, mae Michelangelo, Leonardo da Vinci, Donatello, Botticelli, Fra Angelico, Tintoretto, Caravaggio, Bernini, Titian a Raphael.

Llenyddiaeth[golygu]

Gosodwyd sylfeini yr iaith Eidaleg lenyddol fodern gan Dante Alighieri o Fflorens. Ei waith enwocaf yw'r Divina Commedia, a ystyrir yn un o brif gampweithiau Ewrop yn y Canol Oesoedd. Llenorion amlwg eraill yw Giovanni Boccaccio, Giacomo Leopardi, Alessandro Manzoni, Torquato Tasso, Ludovico Ariosto, a Petrarch. Ymysg llenorion diweddar yr Eidal, enillwyd Gwobr Nobel am Lenyddiaeth gan Giosuè Carducci (1906), Grazia Deledda (1926), Luigi Pirandello (1936), Salvatore Quasimodo (1959), Eugenio Montale (1975) a Dario Fo (1997).

Ymysg athronwyr amlwg yr Eidal mae Giordano Bruno, Marsilio Ficino, Niccolò Machiavelli a Giambattista Vico.

Cerddoriaeth[golygu]

Bu cerddoriaeth yn elfen bwysig iawn yn niwylliant yr eidal o gyfnod cynnar. Yn yr Eidal y difeisiwyd opera, ac mae'n parhau'n boblogaidd iawn hyd heddiw. Y tŷ opera enwocaf yw La Scala yn Milan.

Ymysg cyfansoddwyr enwog yr Eidal mae Giovanni Pierluigi da Palestrina, Alessandro Scarlatti, Arcangelo Corelli, Antonio Vivaldi, Niccolò Paganini, Gioacchino Rossini, Giuseppe Verdi a Giacomo Puccini. Canwr enwocaf yr Eidal yn y cyfnod diweddar oedd Luciano Pavarotti.

Flag of Italy.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato