Diwydiant mwydion a phapur

Oddi ar Wicipedia
Gweithwraig yn bwydo peiriant i baratoi mwydion mewn melin bapur yn yr Alban ym 1918.
Paolo Monti, 1980

Y diwydiant sy'n ymwneud â throi planhigion prennaidd yn fwydion, papur, a phapurbord yw'r diwydiant mwydion a phapur. Gwneir papur trwy fathru pren yn seliwlos gan ddefnyddio naill ai ffrithiant neu gemegion. Yn ystod y broses hon, ceith gwared â'r gwastraff a'r dŵr gan adael papur.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Gwnaed brwynbapur (papyrws) gan yr Hen Eifftiaid drwy osod stribynnau tenau o'r planhigyn papurfrwyn yn haenau ar onglau sgwâr i'w gilydd. Cychwynnodd y broses fodern o droi mwydion yn bapur yn Tsieina tua'r flwyddyn 105. Pan ddaeth y broses i Ewrop tua mil o flynyddoedd yn hwyrach defnyddiwyd crwyn anifeiliaid i wneud memrwn neu barsment. Oherwydd y pris uchel o ddefnyddio croen, gwnaed papur hefyd o ddefnyddiau megis cotwm a lliain. Yn nhreigl amser tyfodd lefelau llythrennedd a chylchrediad papurau newydd a chylchgronau, a sbardunwyd yr ymchwil am ddefnydd crai rhatach. Erbyn y 19g, pren oedd y dewis mwyaf boblogaidd. Yn Ewrop, a'r Almaen yn enwedig, datblygodd cynhyrchwyr papur beiriannau i dorri boncyffion yn fwydion ac i sychu a gwastadu'r mwydion gan ddefnyddio cyfres o roleri gwasgu, pob un yn fwy o faint ac yn gyflymach na'r un blaenorol. Gyda'r broses hon, cafodd nifer o fathau o fwydion a phapurau ei fasgynhyrchu, a'r rhataf oedd papur papur newydd. Trowyd mwydion yn gynnyrch hylendid personol newydd megis hancesi papur a phapur tŷ bach.[1]

Rhestr y prif gwmnïau yn ôl maint cynnyrch[golygu | golygu cod]

Dyma'r deg cwmni cynhyrchu papur a bord (P&B) mwyaf yn y byd yn 2012, yn ôl adroddiad blynyddol y cylchgrawn Pulp and Paper International (PPI):[2]

Safle Cwmni Gwlad Cynnyrch P&B
(1000 tunnell)
1 International Paper Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America 12,901
2 Oji Paper Baner Japan Japan 10,721
3 UPM Baner Y Ffindir Y Ffindir 10,700
4 Nine Dragons Paper Holdings Baner Tsieina Tsieina 10,450
5 Stora Enso Baner Y Ffindir Y Ffindir 10,268
6 RockTenn Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America 8,075
7 Sappi Baner De Affrica De Affrica 7,705
8 Smurfit Kappa Group Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon 6,900
9 Mitsubishi Paper Mills Baner Japan Japan 5,917
10 Nippon Paper Baner Japan Japan 5,590

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Pulp and Paper Industry. The Canadian Encyclopedia. Adalwyd ar 12 Hydref 2014.
  2. (Saesneg) The PPI Top 100. Pulp and Paper International (Medi 2013). Adalwyd ar 12 Hydref 2014.