Diwydiant gwlân Cymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Diwydiant gwlân yng Nghymru)
Neidio i: llywio, chwilio

Un o ddiwydianau traddodiadol Cymru yw diwydiant gwlân Cymru. Er nad yw'n ddiwydiant mawr erbyn heddiw, yn y gorffennol bu'n fodd ennill cynhaliaeth i nifer sylweddol o Gymry.

Dichon fod cynhyrchu gwlân o gnu defaid yn weithgaredd economaidd yn y wlad ers canrifoedd lawer. Cafodd y "diwydiant bwthyn" hwnnw hwb mawr yn y 12fed ganrif gyda sefydlu abatai'r Sistersiaid yng Nghymru. Un o brif weithgareddau economaidd yr abatai hyn, fu'n perchen tiroedd eang, oedd magu defaid a chynhyrchu gwlân.

Yn y 18fed ganrif a'r 19eg, tyfodd y diwydiant yng nghefn gwlad Cymru. Roedd gweu hosanau gwlân yn gymorth i nifer o deuluoedd amethyddol gael tipyn o bres dros y gaeaf, gyda'r merched a gwragedd yn gwneud y gwaith fel arfer. Un o'r canolfannau mawr oedd Meirionnydd, yn enwedig yn ardaloedd Y Bala a Dolgellau. Roedd canolfannau eraill erbyn y 1850au yn cynnwys ardal Y Drenewydd a Llanidloes ym Maldwyn, cefn gwlad Llangollen, tref Aberhonddu, yr ardal o gwmpas Castellnewydd Emlyn a Llanbedr Pont Steffan yn ne Ceredigion ac ardal Caerfyrddin.

Sedydlwyd melinau a ffatrioedd gwlân yn nes ymlaen, e.e. yn Y Drenewydd, Powys ac ym mhentref Trefriw, Dyffryn Conwy. Mae rhai o'r lleoliadau hyn yn atyniadau twristaidd heddiw.

Gellir dysgu am hanes y diwydiant gwlân yn Amgueddfa Wlân Cymru. Fe'i lleolir ym mhentref Dre-fach Felindre, oedd ar un adeg yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân yn ne-orllewin Cymru, ger Castellnewydd Emlyn, tua 16 milltir i'r gorllewin o Gaerfyrddin.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Ben Bowen Thomas, Braslun o hanes economaidd Cymru (Caerdydd, 1941)

Gweler hefyd[golygu]


Flag of Wales 2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato