Diwydiant cynradd

Oddi ar Wicipedia

Diwydiant cynradd, neu'r sector cynradd, yw'r term a ddefnyddir gan economegwyr i ddisgrifio'r gwaith o gael deunyddiau crai o'r ddaear, e.e. trwy fwyngloddio neu ffermio. Fe'i gelwir yn ddiwydiant cynradd am fod pob sector arall mewn diwydiant ac felly'r economi cyfan yn deillio ohono yn y pen draw, yn uniongyrchol - fel yn achos diwydiant eilaidd fel cynhyrchu ceir - neu'n anuniongyrchol, fel yn achos diwydiant trydyddol (gwasanaethau, er enghraifft). Mae'n ddiwydiant cynradd hefyd yn yr ystyr ei fod wedi datblygu'n gyntaf yn hanes y ddynolryw; ar un ystyr roedd yr helwyr cynhanesyddol a ddygai gig a chroen anifeiliaid yn ôl i'w tylwyth yn enghreifftiau cyntefig o ddiwydiant cynradd.

Mae enghreifftiau o ddiwydiant cynradd yn cynnwys

Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.