Diwrnod y Lluoedd Arfog (DU)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Flag of Armed Forces Day (UK).svg

Diwrnod i "ddathlu" lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yw Diwrnod y Lluoedd Arfog. Fe'i sefydlwyd yn 2006.[1] a newidiwyd yr enw i'r un presenol yn 2009 gan lywodraeth Gordon Brown a chafodd ei gynnal am y tro cyntaf ar 27ain o Fehefin, gan gymryd lle Diwrnod y Cyn-filwr (Veteran's Day). Ar y diwrnod hwnnw cyhoeddwyd fod prif seremoni 2010 yn cael ei chynnal yn ninas Caerdydd.[2]

Sefydlu a lawnsio[golygu]

Rhoddodd Prif Weinidog y DU, Gordon Brown, ei gefnogaeth i gael Diwrnod y Lluoedd Arfog yn 2008 gan ddweud y dylai fod yn "ddiwrnod o arbennig o ddathlu".[2]

Ar 27 Ebrill 2009, lansiwyd baner arbennig y Diwrnod yn swyddogol gan Gordon Brown ar ymweliad â byddin y DU yn nhalaith Helmand yn Affganistan. Mae'r faner yn cynnwys rhan uchaf Jac yr Undeb gyda'r geiriau 'Armed Forces Day' ar gefndir gwyn yn y rhan isaf. Dywedodd Gordon Brown ar yr achlysur,

"Britain’s armed forces are second to none, and the whole country owes them an enormous debt of gratitude. Our troops risk their lives fighting the agents of terror here on the front line in Afghanistan to keep the streets of Britain safe, and they are a force for good standing up for the UK’s interests right across the world. Armed Forces Day is our chance to say thank you. I’m proud to be out here in Helmand Province launching the Armed Forces Day flags campaign - I urge everyone to send off for this specially designed flag and fly it with pride."[3]

Cynhaliwyd prif seremoni 2009 yn noc llongau Chatham yn ne Lloegr. Roedd Gordon Brown a'i wraig Sarah, gyda Richard, Dug Caerloyw a'i wraig, yn y parti swyddogol, ynghyd â phennaeth Lluoedd Arfog y DU, y Prif Farsial Awyr Syr Jock Stirrup, a'r Gweinidog Amddiffyn Kevan Jones. Cafwyd digwyddiadau amrywiol mewn sawl lle arall yn y DU. Dathlwyd y Diwrnod yn swyddogol gan filwyr y DU yn Kuwait, Irac ac Affganistan hefyd, gyda lluniau o'r digwyddiadau yn cael eu darlledu gan y BBC, Sky ac eraill.

Beirniadaeth a gwrthwynebiad[golygu]

Mae rhai yn gweld cylfwyno'r diwrnod hwn fel cam i gyfeiriad militariaeth yn y DU a hefyd fel dathliad o imperialaeth. Yng Nghymru mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi derbyn cynnig yn gwrthwynebu'r Diwrnod am ei fod yn "cynyddu militariaeth yng ngwledydd Prydain" ac yn "ymdrech i adfywio Prydeindod imperialaidd".[4] Mae heddychwyr fel y Crynwyr yn gwrthwynebu'r Diwrnod mewn egwyddor hefyd.

Yng Ngogledd Iwerddon does dim croeso i'r Diwrnod gan y gymuned Weriniaethol, sy'n gweld y lluoedd arfog Prydeinig fel byddin ormesol. Ceisiodd rhai gweriniaethwyr gynnal protest heddychlon yn erbyn hedfan baner Diwrnod y Lluoedd Arfog ar Neuadd Dinas Belffast: cawsant eu rhwystro rhag cyrraedd y safle gan heddlu mewn gwisg wrth-derfysg lawn a batons.[5] Roedd Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU wedi sgwennu yn unswydd at Gyngor Dinas Belffast yn gofyn iddynt hedfan y faner - Jac yr Undeb gyda'r geiriau "Armed Forces Day" odano - ar Neuadd y Ddinas. Gwrthodwyd y cais gan sesiwn o'r cyngor ond gwrthdrowyd y penderfyniad gan grŵp o gynghorwyr Unoliaethol yn nes ymlaen. Protestiodd cynghorwyr Sinn Féin yn erbyn y penderfyniad gan haeru ei fod yn stwnt gwleidyddol pryfoclyd: "This is another cheap political stunt by the British Ministry of Defence which remains unwilling to explain to families in this city its role and the role of the British Army in the murder of hundreds of Irish citizens. Sinn Féin explained in Council and won the argument at Committee that the British MoD “armed forces flag” should not be flown from our city hall.”[6]

Cyfeiriadau[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]