Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr
Oddi ar Wicipedia
Stamp Rwsiaidd i ddathlu canmlynedd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr.
Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar y 1af o Fai. Mae'n achlysur i ddathlu cyrhaeddiadau'r dosbarth gweithiol a mudiadau llafur neu i brotestio. Sefydlwyd yr ŵyl yn 1889.
Yn yr hen Undeb Sofietaidd a gwledydd eraill y Bloc Dwyreiniol cynhelid gorymdeithiau mawr ar achlysur Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Mae'r traddodiad yn parhau mewn sawl gwlad o gwmpas y byd.