Diwrnod Nakba

Oddi ar Wicipedia
Diwrnod Nakba
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad, diwrnod, counter-celebration Edit this on Wikidata
Dyddiad1948, 1920 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Protest Diwrnod Nakba, Cairo, Yr Aifft, 15-05-2011
Merch yn Hebron yn dathlu Diwrnod Nakba.

Diwrnod Nakba (Arabeg: يوم النكبة Yawm an-Nakbah, sy'n golygu "diwrnod y drychineb") yw'r enw a roddir ar ddiwrnod arbennig (15 Mai) i gofio am Al Nakba, y diwrnod hwnnw yn 1948 pan gollodd y Palesteiniaid eu tir i Israel.[1]

Ym 1998 galwodd arweinydd y Palesteiniaid, sef Yasser Arafat ar ei bobl i gynnal cyfarfodydd i nodi pwysigrwydd y diwrnod.

Ar 23 Mawrth 2011, pleidleisiodd y Knesset newidiadau yng nghyllideb Llywodraeth Israel, er mwyn rhoi'r hawl iddynt leihau nawdd ariannol i unrhyw gorff neu fudiad a oedd yn ymwneud â threfniadau Diwrnod Nabka, mewn unrhyw fodd.

Deffroad Arabaidd, 2011[golygu | golygu cod]

Yn dilyn llawer o brotestiadau yn ymledu drwy'r Dwyrain Canol, protestiadau a gwrthryfeloedd a ellir eu hadnabod fel "Y Gwanwyn Arabaidd" roedd y teimlad hwn o chwyldro wedi cyrraedd y Palesteiniaid erbyn Mai 2011.

Hwn oedd 63ain Diwrnod Nakba'r Palesteiniaid. Y tro hwn daethant ar brotest heddychlon at ffiniau de facto Israel o'r Lan Orllewinol, Llain Gaza a Libanus i ddathlu'r Ŵyl. Saethwyd o leiaf 12 ohonynt gan filwyr Israel gyda bwledi rwber wrth iddynt daflu cerrig at y milwyr.[2][3] Cafwyd protestiadau enfawr drwy'r Tiriogaethau Palesteinaidd a thu hwnt. Yn yr Aifft ceisiodd y protestwyr gymeryd drosodd llysgenhadaeth Israel, ac anafwyd 120 o Eifftiaid. Mewn protest yng ngorllewin Jeriwsalem, arestiwyd dros 70 o Balesteiniaid. Daeth degau o gannoedd o bobl ynghyd wrth ffin Libanus ac Israel a lladdwyd o leiaf pedwar gan fyddin Israel. Cyfiawnhaodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu ymateb ei wlad gan ddatgan eu bod yn benderfynol o amddiffyn ffiniau Israel a'u sofraniaeth.[4]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato