Divali

Oddi ar Wicipedia
Divali
Enghraifft o'r canlynolgŵyl, gŵyl Edit this on Wikidata
Yn cynnwysDhanteras, Naraka Chaturdashi, Lakshmi Puja, Balipratipada, Bhai Dooj Edit this on Wikidata
GwladwriaethIndia, Ffiji, Gaiana, Mawrisiws, Singapôr, Sri Lanca, Nepal, Swrinam, Myanmar, Trinidad a Thobago, Bangladesh Edit this on Wikidata
Hyd5 diwrnod Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Offrymau Puja ar gyfer Divali

Mae Divali neu Diwali (Hindi दीवाली; hefyd Deepavali neu Dipavali, Sansgrit दीपावली, Tamil தீபாவளி) yn un o wyliau pwysicaf yn nhraddodiad yr Hindu, y Jain a'r Sikh sy'n para am bum diwrnod ym mis Hydref.

Neges Diwali y Prif Weinidog Mark Drakeford; Tachwedd 2020

Mae Divali (Sansgrit Dipavali "Rhes o oleuadau") yn symboleiddio buddugoliaeth Daioni dros Ddrygioni, Goleuni dros Dywyllwch, a chaiff lampau eu cynnal yn arwydd o obaith i'r ddynolryw. Yn nhermau mytholeg Hindŵaidd mae Divali'n dathlu dychweliad yr Arglwydd Rama wedi iddo ladd y diafol Ravana ar ddiwedd ei gyfnod o grwydro fel alltud am 14 blynedd (dethlir y fuddugoliaeth dros Ravana ar Dussehra, 19-21 diwrnod cyn Divali). Canolbwynt amlycaf y dathlu yw'r lampau a goleuadau o bob math sydd yn llosgi yn ystod yr ŵyl. Erbyn heddiw mae tân gwyllt yn rhan o'r dathlu hefyd mewn rhai ardaloedd yn India.

Mae Divali yn parhau am bum diwrnod ar ddiwedd mis Hydref neu ddechrau mis Tachwedd. Yn wreiddiol roedd hi'n ŵyl ffrwythlondeb ac fe'i dethlir felly o hyd mewn rhannau o India, yn arbennig yn yr ardaloedd gwledig. Hyd at drothwy'r 19g roedd yr agwedd honno'n eithaf amlwg ac arferai ffermwyr fynd i'r twmpathau gwrtaith i'w haddoli ag offrymau o flodau, ffrwythau a chanhwyllau.

Y diwrnod cyntaf[golygu | golygu cod]

Mae'r diwrnod cyntaf yn gysegredig i'r duwiesau Lakshmi a Parvati a chedwir y ffenestri yn agored er mwyn croesawu'r duwiesau hyn i'r tŷ. Hon yw prif ddiwrnod y castiau masnachol ac ni chedwir cyfrifon ar y diwrnod hwn. Mae masnachwyr yn pentyrru'r pres sydd wedi dod i mewn ar ben y llyfrau cownt ac yn rhoi delw o Lakshmi ar ben hynny ac yn ei haddoli fel duwies golud a llewyrch. Mae eraill yn lliwio darnau pres 1 rupee â phowdr fermilion a'u rhoi mewn pentwr o flaen delw Lakshmi.

Yr ail ddiwrnod[golygu | golygu cod]

Addolir y duw Ganesha, mab Shiva a Parvati, yn ystod Diwali

Mae'r ail ddiwrnod yn gysegredig i amblo, ac yn arbennig gamblo â disiau. Mae dynion a merched fel ei gilydd yn ymuno yn y gamblo (fel rheol am symiau bach, symbolaidd), sy'n dathlu cyfamod y duw Shiva a'i wraig y dduwies Parvati. Mae'r merched yn tynnu lluniau geometrig lliwgar a elwir rangoli ar y llawr o flaen trothwy'r cartref neu yn y cwrt.

Y trydydd diwrnod[golygu | golygu cod]

Diwrnod y lleuad lawn yw hyn. Mae'n ddathliad o fuddugoliaeth Vishnu dros Bali (Naraka), brenin y dieifl (ond mewn rhannau o dde India Bali ei hun sy'n derbyn addoliad). Enw arall ar y diwrnod yw Lakshmi puja, gan fod y dduwies yn cael ei haddoli gyda'r nos ar ôl ymprydio'n ystod y dydd. Yn nhalaith Bengal y dduwies Kali a addolir.

Y pedwerydd diwrnod[golygu | golygu cod]

Dyma'r Divali go iawn, uchafbwynt yr ŵyl, pan oleuir rhesi o bowlenni crochenwaith wedi'u llenwi ag olew ghee y tu mewn a'r tu allan i'r tŷ. Mae hynny er mwyn dathlu dychweliad Rama i Ayodhya a'i goroni yno wedi bod yn alltud am 14 mlynedd. I rai Hindŵiaid mae'r diwrnod yn gysegredig i'r brenin chwedlonol Vikramaditya fel diwrnod cyntaf y calendr Vikram.

Y pumed diwrnod[golygu | golygu cod]

Yama-dvitiya yw enw'r pumed diwrnod. Mae'n dathlu achlysur pan giniawodd y duw Yama â'i chwaer Yamuna a gorchmynnodd i bawb arall wneud yr un fath. Rhaid i bob dyn giniawa yn nhŷ ei chwaer neu berthynas benywaidd arall a rhoi anrhegion iddi. Cynhelir gwyliau ymdrochi mawr ar lannau Afon Jamuna (afon y dduwies Yamuna). Mae'r castiau clerigol yn addoli Yama a'i glerc Chitragupta.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]