Dirprwy Brif Weinidog
Oddi ar Wicipedia
Mewn rhai gwledydd, gweinidog sy'n gallu cymryd drosodd yn lle'r Prif Weinidog os bydd yn absennol dros dro o'r swydd am ryw reswm yw Dirprwy Brif Weinidog neu Is Brif Weinidog. Mae'n swydd debyg i honno Is Arlywydd, ond gyda gwahaniaethau pwysig, er bod y ddwy swydd fel ei gilydd yn ail ar ôl yr arweinydd gwladol. Yng Nghanada, swyddi i weision sifil ydyw, fel y swydd o brif weinidog ei hun. Ceir swyddi cyffelyb yn nhaleithiau Canada ac Awstralia hefyd (Deputy Premier).
Yn aml mae dirprwy brif weinidog yn dal swydd arall yn y cabinet ac yn un o'r ffigyrau amlycaf yn y llywodraeth. Weithiau mae dirprwy brif weinidog yn is arweinydd y blaid lywodraethol neu'n arweinydd plaid lai mewn clymblaid, fel yn achos Dirprwy Brif Weinidog Cymru ar hyn o bryd (2008).
[golygu] Dirprwy brif weinidogion yn ôl gwlad
Awstralia Dirprwy Brif Weinidog Awstralia
Canada Dirprwy Brif Weinidog Canada
Cymru Dirprwy Brif Weinidog Cymru
Y Ffindir Dirprwy Brif Weinidog y Ffindir
Yr Almaen Is-Ganghellor yr Almaen
India Dirprwy Brif Weinidog India
Gweriniaeth Iwerddon Tánaiste na hÉireann (Dirprwy Brif Weinidog Iwerddon)
Israel Dirprwy Brif Weinidog Israel
Malaysia Dirprwy Brif Weinidog Malaysia
Seland Newydd Dirprwy Brif Weinidog Seland Newydd
Gwlad Pwyl Dirprwy Brif Weinidog Gwlad Pwyl
Singapore Dirprwy Brif Weinidog Singapore
Sweden Dirprwy Brif Weinidog Sweden
Y Deyrnas Unedig Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig
Y Bahamas Dirprwy Brif Weinidog Bahamas
Malta Dirprwy Brif Weinidog Malta

