Diplomyddiaeth gwenoli
Oddi ar Wicipedia
Math o ddiplomyddiaeth yw diplomyddiaeth gwenoli (Saesneg: shuttle diplomacy) lle mae plaid allanol yn gweithredu fel canolwr rhwng prif bleidiau mewn anghydfod, trwy "wenoli" rhyngddynt, heb i'r prif bleidiau cwrdd a'i gilydd. Defnyddiwyd y term yn gyntaf i ddisgrifio ymdrechion Henry Kissinger, Ysgrifennydd Gwladwriaeth yr Unol Daleithiau, i ddod â therfyn i Ryfel Yom Kippur ym 1973.