Dingo
Oddi ar Wicipedia
| Dingo | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Carnivora |
| Teulu: | Canidae |
| Genws: | Canis |
| Rhywogaeth: | Canis lupus |
| Isrywogaeth: | C. l. dingo |
| Enw deuenwol | |
| Canis lupus dingo (Meyer, 1793) |
|
Mae'r dingo (Canis lupus dingo) yn gi gwyllt a gysylltir yn bennaf ag Awstralia ond sydd i'w cael mewn gwledydd eraill yn ne-ddwyrain Asia yn ogystal.
Ymddengys iddo gael ei ddwyn i Awstralia am y tro cyntaf tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae'r dingo yn tyfu i hyd at 120 cm o hyd, yn cynnwys ei gynffon. Fel rheol mae ei gôt yn lliw brown.
Mae ffermwyr yn Awstralia yn saethu dingos a chŵn gwyllt eraill.