Dinas Guatemala
Oddi ar Wicipedia
Dinas Guatemala (Sbaeneg: Ciudad de Guatemala, enw llawn: La Nueva Guatemala de la Asunción) yw prifddinas a dinas fwyaf Guatemala. Roedd y boblogaeth yn 1,675,589 yn 1990, gyda 2.5 miliwn yn yr ardal ddinesig. Dinas Guatemala yw dinas fwyaf Canolbarth America. Saif mewn dyffryn yn rhan ddeheuol y wlad.
Sefydlwyd y ddinas gan y Sbaenwyr yn 1776, er fod gweddillion un o ddinasoedd y Maya, Kaminaljuyu, o fewn ffiniau'r ddinas bresennol. Enw gwreiddiol y Sbaenwyr ar y ddinas oedd El Carmen.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Biblioteca Nacional (llyfrgell genedlaethol)
- Casa Presidencial (Tŷ'r Arlywydd)
- Catedral Metropolitana (eglwys gadeiriol)
- Estadio Mateo Flores
- Museo Nacional de Arqueología y Etnología (amgueddfa)
- Palacio Nacional
- Torre del Reformador
[golygu] Enwogion
- Carlos Mérida (1891-1984), arlunydd
- Miguel Ángel Asturias (1899-1974), awdur