Diffeithwch Libya
Oddi ar Wicipedia
Mae Diffeithwch Libya yn rhan o anialwch y Sahara. Gorwedd y rhan fwyaf o'r diffeithwch o fewn Libya ei hun ac yn llenwi'r rhan fwyaf o ddwyrain y wlad ond mae'n cynnwys rhan o ogledd-orllewin Yr Aifft yn ogystal: (gwerddon Siwa, er enghraifft).
Mae'r rhan fwyaf o'r diffeithwch yn isel ac ni cheir bryniau ond yn y de ac ymyl gogleddol y diffeithwch. Ychydig iawn o werddonau a geir yno ond mae ganddi gronfeydd olew anferth o dan ei hwyneb.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwelwyd ymladd ffrynig rhwng byddin Montgomery a'r Afrika Korps Almaenig yng ngogledd y diffeithwch ac ar yr arfordir, yn arbennig yn Tobruk a Benghazi.